Atyniadau
CHWILIO AM FUSNESAU
Amgueddfa'r 1950au Dinbych / The 1950s Museum Denbigh
Mae'r amgueddfa yn gist drysor o bopeth o'r 50au. O hen gerbydau, gosodiadau cegin/ystafell fyw, cerddoriaeth bop, teganau, eitemau cartref i bethau cofiadwy bocsio a’r cerbyd dianc o'r Great Train Robbery
01745 817004
Darllen mwy…
Amgueddfa'r 1950au Dinbych / The 1950s Museum Denbigh
The Lawnt, Nantglyn Road, Denbigh, LL16 4SU
01745 817004
Atyniadau
Oriau agor: 11yb tan 4yp pob dydd ar wahân i Ddiwrnod Nadolig.
Mynediad: Oedolyn £7.50, Plentyn £4.00 (4-14 oed), O dan 4 oed am ddim, Tocyn Teulu £20 ( 2 Oedolyn 2 Plentyn).
Cwn ar denyn. Parcio am ddim. Llwybrau coetir. Mynediad i gadair olwyn i'r llawr isaf. Esgynfa allanol i'r llawr uchaf.
Ebost: sparrowharrisonmbe@gmail.com
01745 817004
Amgueddfa Dinbych / Denbigh Museum
Amgueddfa annibynol yw Amgueddfa Dinbych wedi'w sefydlu yn 2014 gan wirfoddolwyr i ddiogelu treftadaeth Dinbych.
01745 817095
Darllen mwy…
Amgueddfa Dinbych / Denbigh Museum
Lôn Goch / Grove Road,, Dinbych / Denbigh,, LL16
01745 817095
Atyniadau
Amgueddfa annibynol yw Amgueddfa Dinbych wedi'w sefydlu yn 2014 gan wirfoddolwyr i ddiogelu treftadaeth Dinbych.
Er yn hollol wirfoddol mae ein amgueddfa yn cael ei weithredu i'r safonau uchaf. Rydym yn gweithio tuag at achrediad llawn gan Llywodraeth Cymru.
Wedi'w leoli yn hen adeilad y llys ynadon rydym ar hyn o'r bryd yn gweithio ar brosiect i addasu yr adeilad ac i ehangu profiad ymwelwyr.
Mae'r amgueddfa ar agor pob prynhawn dydd Llun a dudd Iau rhwng 2yp-4yp ac ar adegau eraill yn ystod y flwyddyn ar gyfer arddangosfeydd arbennig. Mae'r Grŵp Archif Cymunedol hefyd yn cyfarfod yn yr amgueddfa ar yr un pryd.
Rydym yn croesawu ymweliadau gan grwpiau ar unrhyw adeg o'r flwyddyn. Cysylltwch a ni i wneud trefniadau.
01745 817095
Castell Dinbych / Denbigh Castle
Gyda thros hanner milltir o furiau tref, mae Castell Dinbych yn gaer glasurol o oes Edward.
cadw.gov.wales/daysout/denbighcastle/?lang=en
01745 813385
Darllen mwy…
Castell Dinbych / Denbigh Castle
LL16 3SN
01745 813385
Atyniadau
Nodwedd wychaf Castell Dinbych yw ei borthdy mawr gyda’i dri thŵr trawiadol. Gyda thros hanner milltir o furiau tref, mae Castell Dinbych yn gaer glasurol o oes Edward.
Yn sgîl ymgyrchoedd llwyddiannus Edward I yn yr ardal yn y 13eg ganrif, crëwyd bwrdeistref Seisnig yn Ninbych o 1282 ymlaen. Rhoddwyd y cyfrifoldeb o reoli’r ardal i Henry de Lacy, un o gadlywyddion ffyddlon y Brenin, a chafodd y dasg o adeiladu’r castell newydd.
Am mwy o fanylion dilynwch y cyswllt yma:
http://cadw.gov.wales/daysout/denbighcastle/?skip=1&lang=cy
cadw.gov.wales/daysout/denbighcastle/?lang=en
01745 813385
Gwefr heb Wifrau / Wireless in Wales
Ffurfwyd Gwefr heb Wifrau i ddathlu rhan Cymru yn esblygiad radio a darlledu
www.gwefrhebwifrau.org.uk/index.php/en/
07759691939
Darllen mwy…
Gwefr heb Wifrau / Wireless in Wales
Wireless in Wales Museum, Canolfan Iaith Clwyd, Pwll y Grawys, Denbigh LL16 3LG
07759691939
Atyniadau
Ffurfwyd Gwefr heb Wifrau i ddathlu rhan Cymru yn esblygiad radio a darlledu. Mae'r amgueddfa yn dal casgliad bychan ond amrywiol o ddyfeisiadau radio a gwybodaeth. Rydym yn arddangos setiau radio prin a rhai'n cynrychioli cyfnodau mewn trefn amser.
Canlyniad breuddwyd a gweledigaeth un dyn, David E. Jones yw'r amgueddfa. Roedd David yn gasglwr setiau radio am y rhan fwyaf o'i oes. Ysywaeth, bu farw ychydig wythnosau cyn gwireddu ei freuddwyd o agor arddangosfa Gwefr Heb Wifrau a chyhoeddi ei lyfr sy'n sail i lawer o'r arddangosfa.
Cofiwn David fel dyn addfwyn o argyhoeddiad cryf. Bu'n ymgyrchu dros sawl achos a'i etifeddiaeth barhaol yw sefydlu Canolfan Iaith Clwyd yn Ninbych yn 1990.
Casglu setiau radio oedd ei hobi personol a gafodd ei integreiddio ganddo gyda'i ymroddiad dros Gymru a pharhad yr iath Gymraeg. Roedd ganddo weledigaeth eang ac unigryw a arweiniodd at greu'r amgueddfa a'i lyfr Gwefr Heb Wifrau. Saif yr amgueddfa a'r llyfr yn dysteb iddo.
www.gwefrhebwifrau.org.uk/index.php/en/
07759691939