This site uses cookies that store non-personal information to help us improve our site.

Hawdd i gyrraedd a hawdd i deithio o amgylch

Mae Dinbych funudau yn unig o’r briffordd ar draws gogledd Cymru, felly mae’r rhanbarth cyfan o fewn cyrraedd, o fynyddoedd Eryri i atyniadau glan-môr y Rhyl.

Sut i gyrraedd

Mae Manceinion 90 munud i ffwrdd ac mae ffordd yr M53 yn cysylltu Glannau Mersi â’r A55.

Gallwch gyrraedd yma o Firmingham mewn tua 2 awr. Dilynwch yr A41 i Gaer cyn ymuno â’r A55.

Teithiwch ar yr A55 hyd at Gyffordd 27A ac yna dilynwch yr A525 i Ddinbych.

Os ydych yn cyrraedd ar gludiant cyhoeddus, gallwch ddal trên Arriva Cymru i’r Rhyl ac yna ddal bws o’r Rhyl i Ddinbych. Ewch i arrivabus.co.uk i gael mwy o wybodaeth.

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Ddinbych. Siwrne dda i chi!