This site uses cookies that store non-personal information to help us improve our site.

Contact us

Cyngor Tref Dinbych /Denbigh Town Council

Neuadd y Dref / Town Hall,

Lôn Crown / Crown Lane,

Dinbych /  Denbigh,

LL16 3TB

Teleffôn / Telephone: 01745 815984

E-bost / E-mail: townclerk@denbightowncouncil.gov.uk

Oriau agor / Opening times: Llun i  Gwener / Monday to Friday; 9:00 - 1:00

 

I ychwanegu Digwyddiad / To add an Event: events@visitdenbigh.co.uk

 

I ychwanegu eich busnes i'r Cyfeirlyfr / To add your business to the Directory: directory@visitdenbigh.co.uk

 

Unrhyw fater arall / Any other business: webmaster@visitdenbigh.co.uk

ALLWEDDAU’R DREF

 

Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch ymweliad â thref Dinbych, ewch am dro ar hyd Furiau’r Dref. Gallwch fenthyg yr allwedd o’r Castell er mwyn crwydro fel y mynnwch!

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM a Drysau Agored Dinbych

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM

 ** YN ÔL AR GYFER 2024!! **

Pob bore Sul rhwng mis Mai a mis Medi, mae gwirfoddolwyr lleol yn arwain teithiau o amgylch y dref farchnad ganoloesol. Mae’r teithiau’n dechrau ger cerflun H.M.Stanley o flaen y Llyfrgell am 10.30yb ac yn para tua 1½ awr.

Darperir, trwy drefniant, deithiau i grwpiau trwy gydol y flwyddyn ar ddiwrnod ac amser sy'n gyfleus. I gael mwy o wybodaeth amdan y teithiau neu i drefnu taith ar gyfer grwpiau, ffoniwch Neuadd y Dref cyn 12yp, 01745 815984 (Llun-Gwener) neu e-bost: townclerk@denbightowncouncil.gov.uk

 

DRYSAU AGORED DINBYCH

Pob mis Medi, fel rhan o Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, bydd nifer o adeiladau diddorol, hyfryd a hanesyddol ar agor i'r cyhoedd AM DDIM.

Bydd Drysau Agored Dinbych yn cael ei gynnal dros benwythnos 21-22 Medi 2024.

Bydd manylion o'r gwahanol adeiladau a digwyddiadau i'w cael yn yr adran Digwyddiadau'r Dyfodol.