Telerau ac amodau defnydd
1. Cyflwyniad
Mae’r telerau ac amodau hyn yn rheoli eich defnydd o’n gwefan. Trwy ddefnyddio ein gwefan, rydych yn derbyn y telerau ac amodau hyn yn llawn; o ganlyniad, os ydych yn anghytuno â’r telerau ac amodau hyn neu unrhyw ran o’r telerau ac amodau, ni ddylech ddefnyddio ein gwefan.
Os byddwch yn [cofrestru â’n gwefan, cyflwyno unrhyw ddeunyddiau i’n gwefan neu’n defnyddio unrhyw un o wasanaethau ein gwefan], byddwn yn gofyn i chi gytuno’n benodol i’r telerau ac amodau hyn.
Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis; trwy ddefnyddio ein gwefan neu gytuno i’r telerau ac amodau hyn, rydych yn cytuno i’n defnydd o gwcis yn unol â thelerau ein polisi preifatrwydd a chwcis www.visitdenbigh-co-uk/cwcis.html.
2. Rhybudd hawlfraint
Hawlfraint (h) 2014 Grwp Twristiaeth Dinbych
Yn amodol i ddarpariaethau penodol y telerau ac amodau hyn:
- ein eiddo ni, ynghyd â’n trwyddedwyr, yw holl hawlfraint a hawliau eiddo deallusol eraill ein gwefan a’r deunydd ar ein gwefan, a ni sy’n eu rheoli; a
- chedwir holl hawlfraint a holl hawliau eiddo deallusol eraill ein gwefan a’r deunydd ar ein gwefan.
3. Trwydded i ddefnyddio’r wefan
Gallwch:
- edrych ar dudalennau o’n gwefan mewn porwr gwe;
- lawrlwytho tudalennau o’n gwefan i’w storio mewn porwr gwe;
- argraffu tudalennau o’n gwefan;
yn amodol i ddarpariaethau eraill y telerau a’r amodau hyn.
Ac eithrio’r hyn a ganiateir yn benodol gan yr uchod neu ddarpariaethau eraill y telerau ac amodau hyn, rhaid i chi beidio â lawrlwytho unrhyw ddeunydd o’n gwefan neu gadw unrhyw ddeunydd o’r fath ar eich cyfrifiadur.
Cewch ddefnyddio ein gwefan at eich dibenion personol neu fusnes, a rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan i unrhyw ddiben arall.
Ac eithrio’r hyn a ganiateir yn benodol gan y telerau a’r amodau hyn, rhaid i chi beidio â golygu neu addasu fel arall unrhyw ddeunydd ar ein gwefan.
Oni bai eich bod yn rheoli neu’n berchen ar yr hawliau perthnasol yn y deunydd, rhaid i chi beidio ag:
- ailgyhoeddi deunydd o’n gwefan (yn cynnwys ei ailgyhoeddi ar wefan arall);
- gwerthu, rhentu neu is-drwyddedu deunydd o’n gwefan;
- dangos yn gyhoeddus unrhyw ddeunydd o’n gwefan;
- atgynhyrchu, dyblygu, copïo neu gamddefnyddio fel arall ddeunydd o’n gwefan i ddiben masnachol; neu
- ailddosbarthu deunydd o’n gwefan.
Rydym yn cadw’r hawl i gyfyngu mynediad i ardaloedd ar ein gwefan, neu yn wir yr holl wefan, ar ein disgresiwn; rhaid i chi beidio â mynd o’r tu allan i’r rheolau neu osgoi, neu geisio mynd o’r tu allan i’r rheolau neu osgoi, unrhyw gyfyngiadau i atal mynediad ar ein gwefan.
4. Defnydd derbyniol
Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan mewn unrhyw ffordd na chymryd unrhyw gamau sy’n achosi neu all achosi, difrod i’r wefan neu nam i berfformiad, argaeledd neu hygyrchedd y wefan.
Rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan mewn unrhyw ffordd sy’n torri’r gyfraith, yn anghyfreithlon, yn dwyllodrus neu’n niweidiol, nac mewn cysylltiad ag unrhyw ddibenion neu weithgaredd anghyfreithlon, twyllodrus neu niweidiol.
Rhaid i chi beidio â defnyddio ein gwefan i gopïo, storio, gwe-letya, trosglwyddo, anfon, defnyddio, cyhoeddi neu argraffu unrhyw ddeunydd sy’n cynnwys (neu sy’n gysylltiedig ag) unrhyw ysbïwedd, feirysau cyfrifiadurol, ceffyl Trojan, mwydyn, cofnodwr trawiadau bysellau, gwreiddwedd neu unrhyw feddalwedd cyfrifiadurol maleisus arall.
Rhaid i chi beidio â gwneud unrhyw weithgareddau casglu data systematig neu awtomatig (yn cynnwys crafu heb gyfyngiadau, cloddio data, tynnu data a chynaeafu data) ar ein gwefan neu mewn perthynas â’n gwefan heb ein caniatâd ysgrifenedig penodol.
Rhaid i chi beidio â chael mynediad at neu ryngweithio mewn unrhyw ffordd arall â’n gwefan gan ddefnyddio unrhyw robot, corryn neu ddull awtomatig arall.
Rhaid i chi beidio â defnyddio data a gasglwyd o’n gwefan ar gyfer unrhyw weithgaredd marchnata uniongyrchol (yn cynnwys marchnata e-bost heb gyfyngiadau, marchnata SMS, telefarchnata a phostio uniongyrchol).
Rhaid i chi beidio â defnyddio data a gasglwyd o’n gwefan i gysylltu ag unigolion, cwmnïau neu unigolion neu endidau eraill.
Rhaid i chi sicrhau bod yr holl wybodaeth y byddwch yn ei darparu i ni trwy ein gwefan, neu mewn perthynas â’n gwefan, yn wir, cywir, cyfredol, cyflawn ac nad yw’n gamarweiniol.
5. Cofrestru a chyfrifon
5.1Er mwyn bod yn gymwys i gael cyfrif ar ein gwefan o dan yr adran hon (Adran 5), rhaid i chi fod yn 18 oed o leiaf ac yn gweithredu fel busnes yng nghyffiniau Dinbych.
5.2 Gallwch gofrestru i gael cyfrif ar ein gwefan trwy lenwi a chyflwyno’r ffurflen gofrestru ar ein gwefan, a chlicio’r cyswllt dilysu yn yr e-bost a anfonir atoch gan y wefan.
5.3 Rhaid i chi ysgrifennu atom ar unwaith i ddweud wrthym os byddwch yn dod i wybod am unrhyw ddefnydd anawdurdodedig o’ch cyfrif.
5.4 Rhaid i chi beidio â defnyddio cyfrif unigolyn arall i gael mynediad at y wefan, oni bai eich bod wedi cael caniatâd penodol yr unigolyn hwnnw i wneud hynny.
6. Enwau Defnyddwyr a chyfrineiriau
6.1 Os byddwch yn cofrestru i gael cyfrif ar ein gwefan, byddwn yn gofyn i chi ddewis enw defnyddiwr a chyfrinair.
6.2 Rhaid i chi sicrhau na all eich enw defnyddiwr gamarwain a rhaid iddo gydymffurfio â’r rheolau yn ymwneud â chynnwys a nodir yn Adran 9; rhaid i chi beidio â defnyddio eich cyfrif neu enw defnyddiwr i ddynwared unrhyw unigolyn arall neu mewn cysylltiad ag unrhyw ymgais i ddynwared unigolyn.
6.3 Rhaid i chi gadw eich cyfrinair yn gyfrinachol.
6.4 Rhaid i chi ysgrifennu atom ar unwaith i ddweud wrthym os byddwch yn dod i wybod bod eich cyfrinair wedi’i ddatgelu.
6.5 Rydych yn gyfrifol am unrhyw weithgaredd ar ein gwefan sy’n deillio o unrhyw fethiant i gadw eich cyfrinair yn gyfrinachol, a gallwch gael eich dal yn atebol am unrhyw golledion sy’n deillio o fethiant o’r fath.
7. Canslo ac atal cyfrif
7.1 Gallwn:
- atal eich cyfrif;
- canslo eich cyfrif; a/neu
- golygu manylion eich cyfrif,
ar unrhyw adeg ar ein disgresiwn heb rybudd nac esboniad.
7.2 Gallwch ganslo eich cyfrif ar ein gwefan gan ddefnyddio’r panel rheoli cyfrif ar y wefan ond ni chaiff tanysgrifiadau eu had-dalu.
8. Eich cynnwys: trwydded
8.1 Yn y telerau ac amodau hyn, mae “eich cynnwys” yn golygu’r holl waith a deunyddiau (yn cynnwys heb gyfyngiad, testun, graffeg, delweddau, deunydd sain, deunydd fideo, deunydd clywedol, sgriptiau, meddalwedd a ffeiliau) y byddwch yn eu cyflwyno i ni neu ein gwefan i’w storio neu gyhoeddi ar y wefan, neu i’w prosesu neu ddarlledu trwy ein gwefan.
8.2 Rydych yn rhoi trwydded fyd-eang, terfynol, nad yw’n anghynghwysol, di-freindal i ddefnyddio, atgynhyrchu, storio, addasu, cyhoeddi, cyfieithu a dosbarthu eich cynnwys mewn unrhyw gyfrwng sydd eisoes yn bodoli neu yn y dyfodol / atgynhyrchu, storio a chyhoeddi eich cynnwys ar y wefan hon ac mewn perthynas â’r wefan hon ac unrhyw wefan a fydd yn ei holynu / atgynhyrchu, storio, a gyda’ch caniatâd penodol chi, gyhoeddi eich cynnwys ar y wefan hon ac mewn perthynas â’r wefan hon.
8.3 Rydych yn rhoi’r hawl i ni is-drwyddedu’r hawliau a drwyddedwyd o dan Adran 8.2.
8.4 Rydych yn rhoi’r hawl i ni ddwyn achos am dresmasu ar yr hawliau a drwyddedwyd o dan Adran 8.2.
8.5 Trwy hyn rydych yn ildio pob hawl moesol ar eich cynnwys i’r graddau eithaf a ganiateir o dan y ddeddf gymwys; ac rydych yn gwarantu ac yn honni fod yr holl hawliau moesol eraill ar eich cynnwys wedi’u hildio i’r graddau eithaf a ganiateir o dan y ddeddf gymwys.
8.6 Gallwch olygu eich cynnwys i’r graddau a ganiateir trwy ddefnyddio’r swyddogaethau golygyddol ar ein gwefan.
8.7 Heb wneud niwed i’n hawliau eraill o dan y termau ac amodau hyn, os byddwch yn torri unrhyw un o ddarpariaethau’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw ffordd, neu os byddwn yn amau’n rhesymol eich bod wedi torri’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw ffordd, efallai y byddwn yn dileu, dad-gyhoeddi neu olygu y cyfan neu unrhyw ran o’ch cynnwys.
9. Eich cynnwys: rheolau
9.1 Rydych yn gwarantu ac yn honni y bydd eich cynnwys yn cydymffurfio â’r telerau ac amodau hyn.
9.2 Rhaid i’ch cynnwys beidio â thorri’r gyfraith na bod yn anghyfreithlon, a rhaid iddo beidio â thresmasu ar hawliau cyfreithiol unrhyw unigolyn, ac ni ddylai fod yn bosibl iddo arwain at unrhyw gamau cyfreithiol yn erbyn unrhyw unigolyn (ym mhob achos mewn unrhyw awdurdodaeth ac o dan unrhyw ddeddf gymwys).
9.3 Rhaid i’ch cynnwys, a’r defnydd y byddwn yn ei wneud o’ch cynnwys yn unol â’r telerau ac amodau hyn, beidio â:
- bod yn enllibus neu’n ffals yn faleisus;
- bod yn anllad neu’n anweddus;
- tresmasu ar unrhyw hawlfraint, hawl moesol, hawl cronfa ddata, hawl nod masnach, hawl dylunio, hawl i beri coel, neu unrhyw hawl eiddo deallusol arall;
- tresmasu ar unrhyw hawl o ran hyder, hawl i breifatrwydd neu hawl o dan ddeddfwriaeth diogelu data;
- bod yn gyfwerth â chyngor esgeulus neu gynnwys unrhyw ddatganiad esgeulus;
- bod yn gyfwerth ag anogaeth i gyflawni trosedd, cyfarwyddiadau i gomisiynu trosedd neu hybu gweithgaredd troseddol;
- dirmygu unrhyw lys, neu dorri unrhyw orchymyn llys;
- torri deddfwriaeth hiliol neu gasineb ar sail crefydd neu gamwahaniaethu;
- bod yn gableddus;
- torri deddfwriaeth cyfrinachau swyddogol;
- torri unrhyw ymrwymiad contractiol sy’n ddyledus i unrhyw unigolyn;
- dangos trais
- bod yn bornograffig, anweddus, awgrymog neu’n rywiol eglur;
- bod yn anwir, ffals, anghywir neu’n gamarweiniol;
- cynnwys cyfarwyddiadau, cyngor neu wybodaeth arall y gellid gweithredu ar eu sail ac a allai, os gweithredir ar eu sail, achosi salwch, anaf neu farwolaeth neu unrhyw golled neu ddifrod arall;
- bod yn gyfysytyr â sbam;
- bod yn dramgwyddus, twyllodrus, dichellgar, bygythiol, difrïol, aflonyddgar, gwrth-gymdeithasol, peryglus, cas, gwahaniaethol neu ymfflamychol; neu
- achosi dicter, anghyfleustra neu bryder di-angen i unrhyw unigolyn.
10. Gwarantiadau cyfyngedig
10.1Nid ydym yn gwarantu nac yn honni:
- bod yr wybodaeth a gyhoeddir ar ein gwefan yn gyflawn ac yn gywir;
- bod y deunydd ar ein gwefan wedi’u ddiweddaru; neu
- bydd y wefan neu unrhyw wasanaeth ar y wefan yn parhau i fod ar gael.
10.2 Rydym yn cadw’r hawl i newid neu beidio â pharhau â rhai neu bob un o’r gwasanaethau ar ein gwefan, ac i roi’r gorau i gyhoeddi ein gwefan, ar unrhyw adeg ar ein disgresiwn ein hunain heb rybudd nac esboniad; ac eithrio i’r graddau y bydd y telerau ac amodau hyn yn darparu fel arall yn benodol, ni fydd gennych hawl i dderbyn iawndal nac unrhyw daliad arall os caiff unrhyw wasanaeth ar y wefan ei derfynu neu ei newid, neu os byddwn yn rhoi’r gorau i gyhoeddi’r wefan.
10.3 I’r graddau eithaf a ganiateir gan y ddeddf gymwys ac yn amodol ar Adran 11.1, nid ydym yn cynnwys yr holl sylwadau a gwarantau sy’n ymwneud â thestun y telerau ac amodau hyn, ein gwefan a’r defnydd o’n gwefan.
11. Cyfyngiadau ac eithriadau o ran atebolrwydd
11.1Ni fydd unrhyw beth yn y telerau ac amodau hyn yn:
- cyfyngu neu’n eithrio unrhyw atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol sy’n deillio o esgeulustod;
- cyfyngu neu’n eithrio unrhyw atebolrwydd am dwyll neu gamliwiad twyllodrus;
- cyfyngu unrhyw atebolrwydd mewn unrhyw ffordd na chaniateir o dan y ddeddf gymwys; nac
- eithrio unrhyw atebolrwydd nad yw efallai wedi’i eithrio o dan y ddeddf gymwys.
11.2 Mae’r cyfyngiadau ac eithriadau o ran atebolrwydd a nodir yn yr adran hon (Adran 11) ac mewn mannau eraill yn y telerau ac amodau hyn:
- yn amodol ar Adran 11.1; ac
- yn rheoli’r holl rwymedigaethau sy’n deillio o’r telerau ac amodau neu sy’n ymwneud â thestun y telerau ac amodau hyn, yn cynnwys rhwymedigaethau sy’n codi mewn contractau, mewn camweddau (yn cynnwys esgeulustod) ac am dorri dyletswyddau statudol.
11.3 I’r graddau y bydd ein gwefan a’r wybodaeth a gwasanaethau ar ein gwefan yn cael eu darparu am ddim, ni fyddwn yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod o unrhyw fath.
11.4 Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golledion sy’n deillio o unrhyw ddigwyddiad neu ddigwyddiadau sydd y tu hwnt i’n rheolaeth resymol.
11.5 Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golledion busnes, yn cynnwys (heb gyfyngiadau, colli neu ddifrod i elw, incwm, refeniw, defnydd, cynhyrchu, arbedion a ragwelir, busnes, contractau, cyfleoedd masnachol neu ewyllys da.
11.6 Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golled neu lygru unrhyw ddata, cronfa ddata neu feddalwedd.
11.7 Ni fyddwn yn atebol i chi mewn perthynas ag unrhyw golled neu ddifrod arbennig, anuniongyrchol neu ganlyniadol.
11.8 Rydych yn derbyn fod gennym ddiddordeb i gyfyngu ar atebolrwydd personol ein swyddogion a’n gweithwyr ac, o ystyried y diddordeb hwnnw, rydych yn cydnabod ein bod yn endid atebol cyfyngedig; rydych yn cytuno na fyddwch yn dwyn unrhyw hawliad personol yn erbyn ein swyddogion neu weithwyr mewn perthynas ag unrhyw golledion y byddwch yn eu hwynebu mewn cysylltiad â’r wefan neu’r telerau ac amodau hyn (ni fydd hyn, wrth gwrs, yn cyfyngu nac yn eithrio atebolrwydd yr endid atebol cyfyngedig ei hun am weithredoedd a chamweithiau ein swyddogion a’n gweithwyr).
12. Torri’r telerau ac amodau hyn
12.1Heb wneud niwed i’n hawliau eraill o dan y telerau ac amodau hyn, os byddwch yn torri’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw ffordd, neu os byddwn yn amau’n rhesymol eich bod wedi torri’r telerau ac amodau hyn mewn unrhyw ffordd, efallai y byddwn yn:
- anfon un neu ragor o rybuddion ffurfiol;
- atal dros dro eich mynediad i’n gwefan;
- eich gwahardd yn barhaol rhag cael mynediad i’n gwefan;
- atal cyfrifiaduron sy’n defnyddio eich cyfeiriad IP rhag cael mynediad i’n gwefan;
- cysylltu ag unrhyw un neu phob un o’ch darparwyr gwasanaethau rhyngrwyd a gofyn iddynt atal eich mynediad i’n gwefan;
- dechrau camau cyfreithiol yn eich erbyn, boed hynny ar sail tor-contract neu fel arall; a/neu
- atal neu ddileu eich cyfrif ar ein gwefan.
12.2 Pan fyddwn yn atal neu’n gwahardd neu’n rhwystro eich mynediad i’n gwefan neu ran o’n gwefan, rhaid i chi beidio â chymryd camau i fynd o’r tu allan i ataliad neu waharddiad neu rwystr o’r fath (yn cynnwys heb gyfyngiad, greu a/neu ddefnyddio cyfrif gwahanol).
13. Amrywio
13.1 Efallai y byddwn yn adolygu’r telerau ac amodau hyn o dro i dro.
13.2 Bydd y telerau ac amodau diwygiedig yn gymwys i’r defnydd o’n gwefan o ddyddiad eu cyhoeddi ar y wefan, a thrwy hyn rydych yn ildio unrhyw hawl y gall fod gennych i dderbyn rhybudd am unrhyw ddiwygiadau i’r telerau ac amodau, neu i gytuno iddynt. Byddwn yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i chi o unrhyw newid i’r telerau ac amodau hyn, a bydd y telerau ac amodau diwygiedig hyn yn gymwys i’r defnydd o’n gwefan o’r dyddiad y byddwn yn rhoi rhybudd o’r fath i chi; os na fyddwch yn cytuno â’r telerau ac amodau diwygiedig, rhaid i chi beidio â defnyddio’r wefan.
13.3 Os ydych wedi cytuno’n benodol â’r telerau ac amodau hyn, byddwn yn gofyn i chi gytuno’n benodol i unrhyw newid i’r telerau ac amodau hyn; ac os na fyddwch yn cytuno’n benodol i’r telerau ac amodau diwygiedig o fewn y cyfnod a bennir gennym, byddwn yn analluogi neu’n dileu eich cyfrif ar y wefan, a rhaid i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r wefan.
14. Aseiniad
14.1 Rydych trwy hyn yn cytuno y gallwn aseinio, trosglwyddo, is-gontractio neu fel arall ymdrin â’n hawliau a/neu rwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn.
14.2 Rhaid i chi beidio, heb dderbyn ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw, â throsglwyddo, is-gontractio neu fel arall ymdrin ag unrhyw un o’ch hawliau a/neu rwymedigaethau o dan y telerau ac amodau hyn.
15. Toradwydd
15.1 Os bydd unrhyw lys neu awdurdod cymwys arall yn penderfynu bod un o ddarpariaethau’r telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon ac/neu na ellir ei gorfodi, bydd y darpariaethau eraill yn parhau mewn grym.
15.2 Os bydd unrhyw ddarpariaeth anghyfreithlon a/neu na ellir ei gorfodi yn y telerau ac amodau hyn yn anghyfreithlon neu na ellir ei gorfodi os caiff rhan ohoni ei dileu, ystyrir bod y rhan honno wedi’i dileu, a bydd gweddill y ddarpariaeth yn parhau yn effeithiol.
16. Hawliau trydydd parti
16.1 Mae’r telerau ac amodau hyn er ein budd ni a’ch budd chi, ac nid yw’n fwriad iddynt fod o fudd i unrhyw drydydd parti na chael eu gorfodi gan unrhyw drydydd parti.
16.2 Nid yw arfer hawliau’r partïon o dan y telerau ac amodau hyn yn amodol i gytundeb unrhyw drydydd parti.
17. Cytundeb cyflawn
17.1 Yn amodol ar Adran 11.1, y telerau ac amodau hyn, ynghyd â’n polisi cwcis, yw’r cytundeb cyflawn rhyngom ni â chithau mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan ac maent yn disodli’r holl gytundebau blaenorol rhyngddoch chi a ninnau mewn perthynas â’ch defnydd o’n gwefan.
18. Y gyfraith ac awdurdodaeth
18.1 Caiff y telerau ac amodau hyn eu rheoli a’u dehongli yn unol â chyfraith Loegr.
18.2 Bydd unrhyw anghydfodau yn ymwneud â’r telerau ac amodau hyn yn amodol i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr.
19. Ein manylion
19.1 Mae’r wefan hon yn eiddo i Cyngor Tref Dinbych.
19.2 Ein prif swyddfa yw Cyngor Tref Dinbych, Neuadd y Dref, Lon Crown DINBYCH, Sir Dinbych LL16 3TB
19.3 Gallwch gysylltu â ni trwy anfon llythyr i’r cyfeiriad uchod, neu trwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar ein gwefan, anfon neges e-bost townclerk@denbightowncouncil.gov.uk neu dros y ffôn 01745 815984.