This site uses cookies that store non-personal information to help us improve our site.

Polisi preifatrwydd

1. Cyflwyniad

1.1 Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn preifatrwydd y sawl sy’n ymweld â’n gwefan; mae’r polisi hwn yn nodi sut y byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol.

1.2 Trwy ddefnyddio ein gwefan a chytuno â’r polisi hwn, rydych yn caniatáu i ni ddefnyddio cwcis yn unol â thelerau’r polisi hwn.

 

2. Casglu gwybodaeth bersonol

2.1 Efallai y byddwn yn casglu, storio a defnyddio’r math o wybodaeth bersonol a ganlyn:

  1. gwybodaeth am eich cyfrifiadur a’ch ymweliadau â’r wefan hon a’ch defnydd ohoni (gan gynnwys eich cyfeiriad IP, lleoliad daearyddol, math o borwr a’r fersiwn, system weithredu, ffynhonnell gyfeirio, hyd eich ymweliad, tudalennau yr ymwelwyd â nhw, a llwybrau gwe-lywio);
  2. gwybodaeth rydych yn ei darparu i ni trwy gofrestru â’n gwefan (gan gynnwys [eich cyfeiriad ebost);
  3. gwybodaeth rydych yn ei darparu trwy roi eich proffil ar ein gwefan (gan gynnwys eich enw, lluniau proffil, rhyw, dyddiad geni, statws perthynas, diddordebau a hobïau, manylion addysgiadol a chyflogaeth);
  4. gwybodaeth rydych yn ei darparu trwy danysgrifio i’n hysbysiadau ebost a/neu gylchlythyrau (gan gynnwys [eich enw a’ch cyfeiriad ebost]);
  5. gwybodaeth rydych yn ei darparu i ni trwy ddefnyddio’r gwasanaethau ar ein gwefan, neu gwybodaeth a chaiff ei chynhyrchu wrth i chi ddefnyddio’r gwasanaethau hynny (yn cynnwys amseriad, amlder a phatrwm eich defnydd o’r gwasanaethau);
  6. gwybodaeth yn ymwneud ag unrhyw drafodion rydych yn eu gwneud trwy ein gwefan (gan gynnwys eich enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad ebost a manylion eich cerdyn);
  7. gwybodaeth rydych yn ei hanfon i’n gwefan i’w chyhoeddi ar y rhyngrwyd (gan gynnwys eich enw defnyddiwr, eich lluniau proffil a chynnwys eich postiadau);
  8. gwybodaeth sydd wedi’i chynnwys neu sy’n ymwneud ag unrhyw gyfathrebiadau rydych yn eu hanfon atom neu drwy ein gwefan (gan gynnwys cynnwys eich cyfathrebiadau a’r meta data sy’n gysylltiedig â’r cyfathrebiad);
  9. unrhyw wybodaeth bersonol arall yr ydych yn dewis ei hanfon atom.

2.2 Cyn i chi ddatgelu unrhyw wybodaeth bersonol am unigolyn arall i ni, rhaid i chi ofyn am ganiatád yr unigolyn hwnnw i ddatgelu a phrosesu’r wybodaeth bersonol honno yn unol â thelerau’r polisi hwn.

 

3. Defnyddio eich gwybodaeth bersonol

3.1 Caiff unrhyw wybodaeth bersonol a gyflwynir i ni trwy ein gwefan ei defnyddio at y dibenion a nodir yn y polisi hwn neu ar dudalennau perthnasol y wefan.

3.2 Efallai y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol i:

  1. weinyddu ein gwefan a’n busnes;
  2. teilwra ein gwefan ar eich cyfer chi;
  3. eich galluogi i ddefnyddio’r gwasanaethau sydd ar gael ar ein gwefan;
  4. anfon nwyddau atoch a archebwyd ar ein gwefan;
  5. cyflenwi gwasanaethau i chi a brynwyd trwy ein gwefan;
  6. anfon cyfriflenni, anfonebau a nodiadau atgoffa atoch;
  7. anfon cyfathrebiadau atoch nad ydynt yn rhai marchnata;
  8. anfon hysbysiadau e-bost atoch y gwnaethoch ofyn yn benodol amdanynt;
  9. anfon cylchlythyr e-bost atoch, os gwnaethoch ofyn amdano (gallwch roi gwybod i ni ar unrhyw adeg os nad ydych yn dymuno derbyn y cylchlythyr bellach);
  10. anfon cyfathrebiadau marchnata atoch yn ymwneud â’n busnes yr ydym o’r farn y byddant efallai o ddiddordeb i chi, drwy’r post neu, os ydych wedi cytuno i hyn, trwy e-bost neu dechnoleg tebyg (gallwch roi gwybod i ni ar unrhyw adeg os nad ydych yn dymuno derbyn cyfathrebiadau marchnata bellach);
  11. rhoi gwybodaeth ystadegol i drydydd partïon am ein defnyddwyr (ond ni fydd modd i’r trydydd partïon hynny adnabod defnyddiwr unigol ar sail yr wybodaeth honno);
  12. ymdrin ag ymholiadau a chwynion gennych chi neu amdanoch chi ynglyn â’n gwefan;
  13. cadw ein gwefan yn ddiogel ac atal twyll;
  14. sicrhau cydymffurfiaeth â’r telerau ac amodau sy’n rheoli’r defnydd o’n gwefan.

3.3 Os byddwch yn cyflwyno gwybodaeth bersonol i’w chyhoeddi ar ein gwefan, byddwn yn cyhoeddi ac yn defnyddio’r wybodaeth honno yn unol â’r drwydded y byddwch yn ei rhoi i ni.

3.4 Gellir defnyddio eich gosodiadau preifatrwydd i gyfyngu ar yr wybodaeth bersonol a gyhoeddir amdanoch ar ein gwefan, a gellir addasu’r gosodiadau hynny trwy ddefnyddio’r rheolyddion preifatrwydd ar y wefan.

3.5 Ni fyddwn, heb eich caniatâd ffurfiol, yn rhoi eich gwybodaeth bersonol i unrhyw drydydd parti at ei ddibenion marchnata uniongyrchol neu ddibenion marchnata unrhyw drydydd parti arall.

3.6 Ymdrinnir â holl drafodion ariannol ein gwefan gan ein darparwr gwasanaethau talu, [enw’r DGT – Cadwyn Clwyd?]. Gallwch edrych ar bolisi preifatrwydd y darparwr yn [URL]. Ni fyddwn yn rhannu gwybodaeth gyda’n darparwr gwasanaethau ariannol i unrhyw ddibenion ac eithrio prosesu taliadau a wneir gennych trwy ein gwefan, ad-dalu taliadau o’r fath ac ymdrin â chwynion ac ymholiadau yn ymwneud â thaliadau ac ad-daliadau o’r fath.

 

4. Datgelu gwybodaeth bersonol

4.1 Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i un o’n gweithwyr, swyddogion, yswirwyr, cynghorwyr proffesiynol, asiantwyr, cyflenwyr neu is-gontractwyr i’r graddau y mae hynny’n angenrheidiol yn rhesymol i’r diben a nodir yn y polisi hwn.

4.2 Efallai y byddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i unrhyw aelod o’n grwp o gwmnïau i’r graddau y mae hynny’n angenrheidiol yn rhesymol i’r diben a nodir yn y polisi hwn.

4.3 Efallai y byddwn yn dateglu eich gwybodaeth bersonol:

  1. i’r graddau sy’n ofynnol i ni wneud yn ôl y gyfraith;
  2. mewn cysylltiad ag unrhyw achosion cyfreithiol sy’n cael eu cynnal neu a gynhelir yn y dyfodol;
  3. er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol (yn cynnwys darparu gwybodaeth i eraill er mwyn atal twyll a lleihau risg credyd);
  4. [i unrhyw unigolyn y mae gennym sail resymol i gredu y gallai wneud cais i lys neu awdurdod cymwys arall er mwyn datgelu gwybodaeth bersonol pan, yn ein barn resymol ni, y byddai’r cyfryw lys neu awdurdod yn debygol o orchymyn datgelu’r wybodaeth bersonol honno.]

4.4 Ac eithrio’r hyn a nodir yn y polisi hwn, ni fyddwn yn datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd partïon.

 

5. Trosglwyddiadau data rhyngwladol

5.1 Gall gwybodaeth bersonol a gyhoeddir gennych ar ein gwefan neu a gyflwynir gennych i’w chyhoeddi ar ein gwefan fod ar gael, trwy’r rhyngrwyd, ar draws y byd. Ni allwn rwystro’r defnydd neu’r camddefnydd o wybodaeth o’r fath gan eraill.

5.4 Rydych yn cytuno’n benodol i drosglwyddo gwybodaeth bersonol a ddisgrifiwyd yn yr adran hon (Adran 5).

 

6. Cadw gwybodaeth bersonol

6.1 Mae’r Adran hon (Adran 6) yn nodi ein polisïau a’n gweithdrefnau o ran cadw data, a gynlluniwyd er mwyn ceisio sicrhau ein bod yn cydymffurfio â’n rhwymedigaethau cyfreithiol mewn perthynas â chadw a dileu gwybodaeth bersonol.

6.2 Ni chaiff gwybodaeth bersonol a brosesir gennym i unrhyw ddiben(ion) ei chadw’n hirach na’r hyn sy’n angenrheidiol i’r diben neu ddibenion hynny.

6.3 Heb wneud niwed i Adran 6.2, byddwn fel arfer yn dileu data personol sydd wedi’u cynnwys yn y categorïau a nodir isod ar y dyddiad/amser a nodir isod:

  1. Caiff [math o ddata personol] eu ddileu [dyddiad/amser; ac]
  2. [ailadroddwch yn ôl yr angen]].

6.4 Er gwaethaf darpariaethau eraill Adran 6, byddwn yn cadw dogfennau (yn cynnwys dogfennau electronig) sy’n cynnwys data personol:

  1. i’r graddau y mae’n ofynnol i ni wneud hynny yn gyfreithiol;
  2. os byddwn o’r farn y gallai’r dogfennau fod yn berthnasol i unrhyw achosion cyfreithiol sy’n cael eu cynnal neu a gynhelir yn y dyfodol; ac
  3. er mwyn sefydlu, arfer neu amddiffyn ein hawliau cyfreithiol (yn cynnwys darparu gwybodaeth i eraill er mwyn atal twyll a lleihau risg credyd).

 

7. Diogelwch eich gwybodaeth bersonol

7.1 Byddwn yn cymryd rhagofalon technegol a threfniadol rhesymol i osgoi colli, camddefnyddio neu newid eich gwybodaeth bersonol.

7.2 Byddwn yn storio’r holl wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu ar ein gweinyddion diogel (a ddiogelir gan gyfrinair a wal dân).

7.3 Caiff yr holl drafodion ariannol electronig a wneir ar ein gwefan eu hamddiffyn gan dechnoleg amgryptio.

7.4 Rydych yn cydnabod bod trosglwyddo gwybodaeth dros y rhyngrwyd yn anniogel yn ei hanfod, ac ni allwn warantu diogelwch y data a anfonir dros y rhyngrwyd.

7.5 Rydych yn gyfrifol am gadw’n gyfrinachol y cyfrinair a ddefnyddir gennych wrth gael mynediad i’n gwefan; ni fyddwn yn gofyn i chi ddatgelu eich cyfrinair (ac eithrio pan fyddwch yn mewngofnodi i’n gwefan).

 

8. Newidiadau

8.1 Efallai y byddwn yn diweddaru’r polisi hwn o bryd i’w gilydd trwy gyhoeddi fersiwn newydd ar ein gwefan.

8.2 Dylech edrych ar y tudalen hwn yn achlysurol i wneud yn siwr eich bod yn fodlon ag unrhyw newidiadau i’r polisi.

8.3 Efallai y byddwn yn rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau i’r polisi hwn trwy e-bost.

 

9. Eich hawliau

9.1 Efallai y byddwch yn dweud wrthym i roi unrhyw wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch yn ôl i chi; darperir gwybodaeth o’r fath ar yr amod eich bod yn:

  1. talu ffi (a bennwyd yn £10.00 ar hyn o bryd); ac yn
  2. dangos tystiolaeth briodol o bwy ydych (at y dibenion hyn, byddwn fel arfer yn derbyn llungopi o’ch pasbort wedi’i ardystio gan gyfreithiwr neu fanc ynghyd â chopi gwreiddiol o fil cyfleustod yn dangos eich cyfeiriad).

9.2 Efallai y byddwn yn gwrthod datgelu’r wybodaeth bersonol yr ydych yn gofyn amdani i’r graddau y caniateir hynny yn gyfreithiol.

9.3 Gallwch ddweud wrthym ar unrhyw adeg nad ydych yn dymuno i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata.

9.4 Yn ymarferol, byddwch fel arfer unai yn cytuno’n benodol ymlaen llaw i’n defnydd o’ch gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata, neu byddwn yn rhoi cyfle i chi ddewis peidio â caniatáu i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion marchnata.

 

10. Gwefannau trydydd partïon

10.1 Mae ein gwefan yn cynnwys hypergysylltiadau â gwefannau trydydd partïon a manylion amdanynt.

10.2 Nid oes gennym unrhyw reolaeth dros bolisïau ac arferion trydydd partïon ac nid ydym yn gyfrifol amdanynt.

 

11. Diweddaru gwybodaeth

11.1 Os gwelwch yn dda, gadewch i ni wybod os oes angen cywiro neu ddiweddaru’r wybodaeth bersonol sydd gennym amdanoch.

 

12. Cwcis

12.1 Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis.

Os gwelwch yn dda gweler www.visitwales.co.uk/cymraeg/cwcis.html

 

13. Cofrestru gwarchod data

13.1 Rydym wedi ein cofrestru fel rheolydd data gyda Swyddfa Comisiynydd Gwybodaeth y Deyrnas Unedig.

13.2 Ein rhif cofrestru gwarchod data yw [rhif].

 

14. Ein manylion

14. 1 Mae’r wefan hon yn eiddo i Cyngor Tref Dinbych.

14.2 Ein prif swyddfa yw Cyngor Tref Dinbych, Neuadd y Dref, Lon Crown DINBYCH, Sir Dinbych LL16 3TB

14.3 Gallwch gysylltu â ni trwy anfon llythyr i’r cyfeiriad uchod, neu trwy ddefnyddio’r ffurflen gyswllt ar ein gwefan, anfon neges e-bost townclerk@denbightowncouncil.gov.uk neu dros y ffôn 01745 815984.