Calon Gogledd Cymru
Mae Dinbych yn dref o orwelion llydan a llefydd agored lle gallwch fwynhau gweithgareddau egnïol neu ymlacio mewn lleoliad prydferth.
Mae digonedd o deithiau cerdded difyr o amgylch y dref, neu gallech grwydro allan o’r dref i fwynhau’r rhostiroedd gwyllt, bryniau, coedwigoedd a llynnoedd.
Dyma ganolfan ddelfrydol i ymwelwyr sydd am brofi cyfoeth ac amrywiaeth Gogledd Cymru – ewch am daith fer yn y car i arfordir Gogledd Cymru neu i fwynhau prydferthwch arbennig Bryniau Clwyd, un o bedair Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) yng Nghymru – neu gyrrwch i’r gorllewin ar draws Mynydd Hiraethog i fynyddoedd geirwon Eryri.
Heicio, dringo, reidio, pysgota, cerdded. Beth bynnag yw eich dileit, mae’r cyfan wrth law yn Ninbych.
Pentrefi cyfagos
Llandyrnog – tua milltir o’r dref, yma gallwch weld yr eglwys fawr wyngalchog, ond Eglwys Llanfarchell yw eglwys y plwyf, Dinbych. Mae yma nifer o gofebion hardd o oes aur Elizabeth.
Mae pentref Henllan yn adnabyddus am ei eglwys nodedig â thŵr ar ffurf caer a godwyd ar wahân i’r prif adeilad. Credir iddo gael ei godi fel hyn er mwyn i’r clychau gael eu clywed ymhellach.
Credir mai Tafarn Llindir yw un o’r tafarndai hynaf yng Nghymru, ac mae’n enwog am ei hysbryd, ‘gwraig hardd mewn gwisg wen’.
Saif Llanefydd lai na chwe milltir i’r gogledd-orllewin o Ddinbych, a dyma gartref eglwys Sant Nefydd a’r Santes Fair sy’n dyddio nôl i’r 5ed ganrif. Mewn ogof gyfagos yn y 1970au, darganfu archaeolegwyr ddannedd ac asgwrn gên bachgen Neanderthalaidd 11 oed, yn dyddio o 230,000 mlynedd yn ôl – yr olion dynol hynaf i’w darganfod yng Nghymru.
Ganwyd Thomas Edwards, sy’n fwyaf adnabyddus fel y dramodydd a’r bardd Twm o’r Nant, yn Llanefydd yn 1738. Cafodd y theatr yn Ninbych ei henwi ar ei ôl.
Mae Nantglyn yn adnabyddus am y “pulpud yn y goeden” a adeiladwyd mewn hen ywen hynafol yn y fynwent. Yn ôl y traddodiad, arferai’r gweinidog Methodist John Wesley bregethu yno yn ystod y 18fed ganrif.
Credir bod Llanelwy wedi datblygu o amgylch hen fynachlog Celtaidd o’r 6ed ganrif a sefydlwyd gan y Sant Cyndeyrn, ac mae’n gartref i Eglwys Gadeiriol fechan Llanelwy sy’n dyddio o’r 15eg ganrif. Mae’r Beibl gwreiddiol, a gyfeithiwyd i’r Gymraeg yn 1588 gan William Morgan, i’w gweld yn yr eglwys.
Mae tref Rhuthun wyth milltir o dref Dinbych ac mae’n werth chweil ymweld â’r carchar Fictoraidd a’r Ganolfan Grefft gyfoes.
Sut i gyrraedd
Mae Dinbych mewn lleoliad hynod o ganolog i ymwelwyr sydd am fwynhau’r cyfoeth o brofiadau sydd ar gael yng Ngogledd Cymru a’r gororau.
Mae Dinbych o fewn 10 munud i’r A55, y briffordd ar draws gogledd Cymru, a golyga hyn ein bod o fewn cyrraedd hwylus i ddinasoedd mawr Gogledd-orllewin Lloegr: tua 90 munud yn y car o Fanceinion, ac mae’r M53 yn cysylltu Glannau Mersi â’r A55.
Gallwch gyrraedd yma o Firmingham mewn tua dwy awr, ond rydym yn bell iawn o fwrlwm a phrysurdeb y byd hwnnw. Dilynwch yr A41 i Gaer cyn ymuno â’r A55.
Teithiwch ar yr A55 hyd at Gyffordd 27A ac yna dilynwch yr A525 i Ddinbych.
Os ydych yn cyrraedd ar gludiant cyhoeddus, gallwch ddal trên Trafnidiaeth Cymru i’r Rhyl ac yna ddal bws o’r Rhyl i Ddinbych. Ewch i traveline.cymru i gael mwy o wybodaeth.
Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i Ddinbych. Siwrne dda i chi.
ALLWEDDAU’R DREF
Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch ymweliad â thref Dinbych, ewch am dro ar hyd Furiau’r Dref. Gallwch fenthyg yr allwedd o’r Castell er mwyn crwydro fel y mynnwch!
TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM a Drysau Agored Dinbych
TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM
Pob bore Sul rhwng mis Mai a mis Medi, mae gwirfoddolwyr lleol yn arwain teithiau o amgylch y dref farchnad ganoloesol. Mae’r teithiau’n dechrau ger cerflun H.M.Stanley o flaen y Llyfrgell am 10.30yb ac yn para tua 1½ awr.
Darperir, trwy drefniant, deithiau i grwpiau trwy gydol y flwyddyn ar ddiwrnod ac amser sy'n gyfleus. I gael mwy o wybodaeth amdan y teithiau neu i drefnu taith ar gyfer grwpiau, ffoniwch Neuadd y Dref cyn 12yp, 01745 815984 (Llun-Gwener) neu e-bost: admin@denbightowncouncil.gov.uk
DRYSAU AGORED DINBYCH
Pob mis Medi, fel rhan o Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, bydd nifer o adeiladau diddorol, hyfryd a hanesyddol ar agor i'r cyhoedd AM DDIM.
Nid yw'r dyddiadau ar gyfer 2025 wedi cael eu cadarnhau. Bydd manylion o'r gwahanol adeiladau a digwyddiadau i'w cael yn yr adran Digwyddiadau'r Dyfodol maes o law.