Hanes Dinbych
Dinbych yw un o drefi mwyaf hanesyddol Cymru. Ystyr Dinbych yw “caer fechan” ac mae olion Castell hanesyddol Dinbych yn parhau i fwrw cysgod dros y dref.
Credir i’r Rhufeiniad sefydlu caer yma a cheir y cofnod cyntaf ati yn dilyn y Goncwest Normanaidd pan oedd Dinbych yn amddiffyn y llwybr i Fryniau Hiraethog ac Eryri.
Mae Dinbych yn gyforiog o fythau, chwedlau, a barddoniaeth. Roedd gan yr arwr Cymreig, Dafydd ap Gruffydd, brawd Llywelyn ein Llyw Olaf, amddiffynfa yn Ninbych.
Yn 1282, pan drechwyd y Cymry gan Edward I, rhoddwyd y dref a’r ardal gylchynol i Henry de Lacy, Iarll Lincoln, a daeth yn Arglwydd cyntaf Dinbych. Rhoddwyd y Siarter fwrdeistrefol gyntaf i Ddinbych yn 1290. Tua’r adeg hwn y rhoddodd Henry de Lacy ganiatâd i adeiladu’r castell ar ei safle gwych a thyfodd y dref ganoloesol o amgylch y castell, o fewn muriau’r dref. Fodd bynnag, yn ystod Rhyfeloedd y Rhos, llosgwyd y dref ac fe symudodd yn ddiweddarach i’r bryn ger lleoliad y farchnad bresennol cyn ehangu’n ddiweddarach ar batrwm sgwâr o amgylch Stryd y Dyffryn.
Yn ystod oes y Tuduriaid a’r Stiwartiaid, ffynnodd Dinbych fel tref farchnad a masnach. Rhoddodd Elizabeth I y castell ac Arglwyddiaeth Dinbych i’w ffefryn Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, a ddaeth yn Lywodraethwr Cyffredinol Gogledd Cymru i bob pwrpas. Comisiynodd Neuadd y Sir, sydd bellach yn gartref i Lyfrgell y Dref.
Ar ôl 1600, datblygodd y dref yn ganolfan i wahanol grefftwyr - menigwyr, gwehyddwyr, gofaint, cryddion, cyfrwywyr, crwynwyr a barceriaid. Goroesodd y rhain, ar ffurf urddau, hyd ddyfodiad yr oes ddiwydiannol yn y 19eg ganrif.
Yn 1848 agorwyd Ysbyty Meddwl Gogledd Cymru ar gyrion y dref ac ar ei anterth roedd yn gartref i 1500 o gleifion ac yn cyflogi llawer o drigolion Dinbych. Arhosodd ar agor tan 1995 a bellach mae’r adeilad yn nwylo preifat ac yn safle sy’n aros i gael ei ddatblygu. Daeth y rheilffordd i Ddinbych yn y 1860au ac yr yr adeg hynny Dinbych oedd tref bwysicaf Dyffryn Clwyd.
Trwy gydol ei hanes, mae Dinbych wedi bod yn dref farchnad amaethyddol bwysig, wedi’i lleoli mewn safle delfrydol rhwng rhostiroedd Hiraethog a’r Dyffryn ffrwythlon. Mae Dinbych yn parhau yn dref hanesyddol, fel y gwelwch wrth gerdded o amgylch y dref.
Henry Morton Stanley
Mae Henry Morton Stanley yn enwog am yr ymadrodd “Doctor Livingstone I presume”, ond beth arall ydych chi’n ei wybod am un o feibion enwocaf Dinbych?
Nodwyd canmlwyddiant marwolaeth y fforiwr byd enwog Henry Morton Stanley yn Ninbych yn 2004.
Enw gwreiddiol Stanley oedd John Rowlands ac fe’i ganed yn Ninbych yn 1841 a threuliodd y rhan fwyaf o’i blentyndod, rhwng 6 a 15 oed, yn Nhloty Undeb Llanelwy. Pan oedd yn 17 oed, aeth i’r môr a glaniodd yn America lle bu’n ymladd yn Rhyfel Cartref America ar ochr y Cydffederalwyr yn erbyn yr Undebwyr ym Mrwydr Shiloh yn 1862. Newidiodd ei enw i Henry Stanley tua 1859 a mabwysiodd yr enw canol Morton yn 1869. Yn ddiweddarach bu’n gweithio fel gohebydd papur newydd a theithiodd ledled yr UDA ac Ewrop. Yn 1871 dechreuodd ar ei daith i ddarganfod Dwyrain Affrica a’r Congo, y cyntaf o sawl taith yn Affrica. Yn 1899 cafodd Stanley ei urddo’n farchog a rhwng 1895 a 1900 roedd yn eistedd yn y Senedd. Bu farw yn Llundain ar 10 Mai 1904.
ALLWEDDAU’R DREF
Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch ymweliad â thref Dinbych, ewch am dro ar hyd Furiau’r Dref. Gallwch fenthyg yr allwedd o’r Castell er mwyn crwydro fel y mynnwch!
TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM a Drysau Agored Dinbych
TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM
Pob bore Sul rhwng mis Mai a mis Medi, mae gwirfoddolwyr lleol yn arwain teithiau o amgylch y dref farchnad ganoloesol. Mae’r teithiau’n dechrau ger cerflun H.M.Stanley o flaen y Llyfrgell am 10.30yb ac yn para tua 1½ awr.
Darperir, trwy drefniant, deithiau i grwpiau trwy gydol y flwyddyn ar ddiwrnod ac amser sy'n gyfleus. I gael mwy o wybodaeth amdan y teithiau neu i drefnu taith ar gyfer grwpiau, ffoniwch Neuadd y Dref cyn 12yp, 01745 815984 (Llun-Gwener) neu e-bost: admin@denbightowncouncil.gov.uk
DRYSAU AGORED DINBYCH
Pob mis Medi, fel rhan o Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, bydd nifer o adeiladau diddorol, hyfryd a hanesyddol ar agor i'r cyhoedd AM DDIM.
Nid yw'r dyddiadau ar gyfer 2025 wedi cael eu cadarnhau. Bydd manylion o'r gwahanol adeiladau a digwyddiadau i'w cael yn yr adran Digwyddiadau'r Dyfodol maes o law.