This site uses cookies that store non-personal information to help us improve our site.

Daearyddiaeth Dinbych

Â’r ucheldiroedd, y dyffryn a’r arfordir o fewn cyrraedd, does un man yn debyg i dirwedd Dinbych yn y Deyrnas Unedig. Mae lleoliad y dref yng nghanol tirwedd mor gyfoethog ac amrywiol yn gwneud Dinbych yn ganolfan ddelfrydol i ddarganfod yr holl ranbarth a gall ymwelwyr fwynhau cerdded mynyddoedd, pysgota, beicio mynydd ac amrywiaeth o chwaraeon dŵr.

Saif y dref ar fryn creigiog serth uwchlaw caeau eang a rhostiroedd gwyllt Dyffryn Clwyd. Adeiladwyd Castell Dinbych ar gopa’r bryn ac fe’i amgylchynir gan hen furiau’r dref sy’n cynnig amddiffyniad ychwanegol ynghyd â golygfeydd godidog ar draws Dyffryn Clwyd, o Fryniau Clwyd yn y dwyrain i Fynydd Hiraethog yn y gorllewin. Ar ochr ddeheuol y Dyffryn saif Mynyddoedd y Berwyn a’u rhostiroedd grug gwyllt ac mae arfordir Gogledd Cymru 15 milltir yn unig i’r cyfeiriad arall.

Mae Bryniau Clwyd yn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) – mae’r golygfeydd o’r copaon uchaf yn wirioneddol wych. Ond nid prydferthwch natur a geir yma yn unig. Ar gopaon nifer o’r bryniau saif olion hen fryngaerau ac mae’n werth chweil gwisgo eich esgidiau cerdded a mynd i’w gweld drostynt eich hun. Neu gallwch ddilyn llwybr Clawdd Offa, y rhagfur unionlin anferth a godwyd yn yr 8fed ganrif ac sy’n ymestyn o aber afon Dyfrdwy yr holl ffordd at afon Gwy yn y de. 

Mae yma barciau gwledig a chanolfannau dehongli yn Loggerheads a Moel Fama lle gallwch ddysgu mwy am yr ardal ryfeddol hon.

Mae Llyn Brenig yn gronfa ddŵr hyfryd a leolir yn yr ucheldir mewn tirwedd godidog 12 milltir yn unig o ganol y dref. Yma gallwch fwynhau pysgota brithyll o’r radd flaenaf, llogi beiciau, cerdded trwy goedwigoedd ac mae yma barc antur i’r plant. Gallwch adael iddynt chwarae’n ddiogel wrth i chi fwynhau paned yng nghaffi’r Ganolfan Ymwelwyr. Mae Llwybr Brenig yn mynd o amgylch Llyn Brenig drwy’r goedwig ac ar hyd y glannau. Os hoffech fynd ar daith hirach, gallwch gerdded o amgylch y ddau lyn a dilyn Llwybr Alwen hefyd.

Bydd cerddwyr mentrus yn mwynhau crwydro Mynyddoedd y Berwyn i’r de. Mae yno gyfoeth o fywyd gwyllt, adar prin a mignen, nid yw’r bryniau hyn ar gyfer y gwangalon, ond bydd ymwelwyr â’r ardal hon yn teimlo’n bell iawn o fwrlwm y byd modern.

Mae ardal Mynydd Hiraethog yn cynnwys nifer o bentrefi bach hardd, eglwysi hanesyddol a safleoedd cysegredig o’r Oes Haearn. Un o’r ffyrdd gorau o archwilio Hiraethog a’i setliadau yw ar droed. Mae Llwybr Hiraethog yn cysylltu pentrefi Pentrefoelas, Cerrigydrudion, Llanfihangel Glyn Myfyr a Llanrhaeadr ar hyd llwybrau cyhoeddus, lonydd tawel a ffyrdd gwledig. I’r gorllewin saif mynyddoedd Eryri a thirwedd mwyaf dramatig Ynysoedd Prydain.

Ac os ydych wedi cael llond bol ar y golygfeydd ysblennydd a’r llefydd agored, mae milltiroedd o draethau tywod glân a threfi glan-môr traddodiadol ar arfordir Gogledd Cymru.

Mae daearyddiaeth Gogledd Cymru yn amrywiol iawn – bryniau tonnog a dyffrynnoedd, mynyddoedd serth ac arfordiroedd atyniadol – ac mae Dinbych yn ganolfan wych i ddarganfod y cyfan.

Ardal o Harddwch Eithriadol Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy

Bryniau Clwyd yw ucheldir amddiffynnol Gogledd Cymru, cadwyn o fryngaerau ar gopaon a orchuddir â rhostiroedd grug porffor. Mae’r ardal yn ymestyn am 25 milltir o’r arfordir ym Mhrestatyn i Fwlch Nant y Garth.

Mae’r bryniau calchfaen yn nodedig am eu clogwyni creigiog a’u palmentydd, glaswelltir naturiol a nentydd cul. Mae afonydd a nentydd yn byrlymu drwy’r dyffrynnoedd hudolus, coediog, megis afon Chwiler ym Modfari ac afon Alun yn Loggerheads, a ysbrydolodd Rivulet y cyfansoddwr Mendelssohn.

Mae Parc Gwledig Loggerheads 15 milltir i ffwrdd yn unig ac mae’n lle gwych i ddechrau darganfod Bryniau Clwyd. Yma gallwch weld llawer o nodweddion arbennig y tirwedd, a chael cyngor a gwybodaeth am yr ardal, cymryd rhan mewn gweithgareddau addas i’r teulu a mwynhau’r cyfleusterau a’r bwyd a diod gwych.

Parc Gwledig Moel Fama yw copa Bryniau Clwyd – mae’r ardal hon o rostir grug yn cynnwys pwynt uchaf y Bryniau, a gallwch gael mynediad hwylus at y copa o faes parcio Bwlch Penbarras. Ar gopa Moel Fama saif adfeilion Tŵr y Jiwbilî, cofeb eiconig y Bryniau y gellir ei gweld o bob cyfeiriad.

ALLWEDDAU’R DREF

 

Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch ymweliad â thref Dinbych, ewch am dro ar hyd Furiau’r Dref. Gallwch fenthyg yr allwedd o’r Castell er mwyn crwydro fel y mynnwch!

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM a Drysau Agored Dinbych

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM

 ** YN ÔL AR GYFER 2024!! **

Pob bore Sul rhwng mis Mai a mis Medi, mae gwirfoddolwyr lleol yn arwain teithiau o amgylch y dref farchnad ganoloesol. Mae’r teithiau’n dechrau ger cerflun H.M.Stanley o flaen y Llyfrgell am 10.30yb ac yn para tua 1½ awr.

Darperir, trwy drefniant, deithiau i grwpiau trwy gydol y flwyddyn ar ddiwrnod ac amser sy'n gyfleus. I gael mwy o wybodaeth amdan y teithiau neu i drefnu taith ar gyfer grwpiau, ffoniwch Neuadd y Dref cyn 12yp, 01745 815984 (Llun-Gwener) neu e-bost: townclerk@denbightowncouncil.gov.uk

 

DRYSAU AGORED DINBYCH

Pob mis Medi, fel rhan o Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, bydd nifer o adeiladau diddorol, hyfryd a hanesyddol ar agor i'r cyhoedd AM DDIM.

Bydd Drysau Agored Dinbych yn cael ei gynnal dros benwythnos 21-22 Medi 2024.

Bydd manylion o'r gwahanol adeiladau a digwyddiadau i'w cael yn yr adran Digwyddiadau'r Dyfodol.