This site uses cookies that store non-personal information to help us improve our site.

Golwg wahanol ar y gymuned

Diwylliant byw Dinbych, a gafodd ei feithrin dros y canrifoedd, sy’n gyfrifol am ysbryd annibynnol unigryw ein tref – yma byddwch yn derbyn croeso twymgalon a hael a fydd yn gwneud i bob ymwelydd deimlo’n gwbl gartrefol.

Mae Dinbych yn dref gwaith ac mae yma gymuned gelf, theatr a cherdd fywiog – a drefnir yn bennaf gan grwpiau gwirfoddol lleol a mentrau cymdeithasol. Mae llawer o bobl yn trefnu digwyddiadau – ac rydym yn gwahodd pawb i gymryd rhan – o ddarlithoedd y gymdeithas hanesyddol i’r teithiau tywysedig am ddim, nosweithiau ffilm ac arddangosfeydd.

Nid yw datblygiadau’r stryd fawr wedi effeithio rhyw lawer arnom, felly mae Dinbych wedi cadw ei chymeriad ac mae ein busnesau lleol yn cynnig dewis da o siopau annibynnol, caffis, tafarndai a bwytai. Mae rhai o’n busnesau hyd yn oed yn allforio gwasanaethau arbenigol i brosiectau blaenllaw ar draws y byd.

Rydym yn griw creadigol – rydym yn ymdopi â phopeth a ddaw i’n rhan – ac rydym bob amser yn ceisio gwneud y gorau o’r sefyllfa. Ysbyty Gogledd Cymru oedd prif gyflogwr yr ardal am ddegawdau ac roedd yn rhannol gyfrifol am lunio cymeriad goddefgar pobl Ddinbych. Pan gaewyd yr ysbyty yn 1995 fe wnaethom groesawu nifer o’r cleifion i’r gymuned ac maent wedi aros, gan ein hannog i ofalu am eraill a hybu ein hethos cymdogol.

Mae Dinbych wedi bod yn dref farchnad erioed – yn wir, mae gennym orchymyn hanesyddol yn nodi ein hawl i fod yn dref farchnad, felly mewn ymateb i’r penderfyniad i gau’r farchnad da byw, fe wnaethom ddatblygu nifer o farchnadoedd, gwyliau a digwyddiadau sy’n denu ymwelwyr o’r pentrefi cyfagos yn ogystal ag o bell.

Mae Dinbych yn gymuned wirioneddol ddwyieithog lle rydym yn defnyddio’r Gymraeg a’r Saesneg yn gwbl naturiol. Felly dewch i brofi croeso gwirioneddol Gymraeg a Chymreig – cewch groeso cynnes.

ALLWEDDAU’R DREF

 

Er mwyn gwneud y mwyaf o’ch ymweliad â thref Dinbych, ewch am dro ar hyd Furiau’r Dref. Gallwch fenthyg yr allwedd o’r Castell er mwyn crwydro fel y mynnwch!

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM a Drysau Agored Dinbych

TEITHIAU TYWYSEDIG AM DDIM

Pob bore Sul rhwng mis Mai a mis Medi, mae gwirfoddolwyr lleol yn arwain teithiau o amgylch y dref farchnad ganoloesol. Mae’r teithiau’n dechrau ger cerflun H.M.Stanley o flaen y Llyfrgell am 10.30yb ac yn para tua 1½ awr.

Darperir, trwy drefniant, deithiau i grwpiau trwy gydol y flwyddyn ar ddiwrnod ac amser sy'n gyfleus. I gael mwy o wybodaeth amdan y teithiau neu i drefnu taith ar gyfer grwpiau, ffoniwch Neuadd y Dref cyn 12yp, 01745 815984 (Llun-Gwener) neu e-bost: admin@denbightowncouncil.gov.uk

 

DRYSAU AGORED DINBYCH

Pob mis Medi, fel rhan o Ddyddiau Treftadaeth Ewropeaidd, bydd nifer o adeiladau diddorol, hyfryd a hanesyddol ar agor i'r cyhoedd AM DDIM.

Nid yw'r dyddiadau ar gyfer 2025 wedi cael eu cadarnhau. Bydd manylion o'r gwahanol adeiladau a digwyddiadau i'w cael yn yr adran Digwyddiadau'r Dyfodol maes o law.