Hunanddarpar
Bwthyn Bach
Bwthyn dwy ystafell wely dafliad carreg o'r Castell a Chanol y Dref
Tel: n/a
Bwthyn Bach
Cliciwch ar y ddolen am mwy o fanylion ac i archebu lle // Click on the link for further details and booking
Tel: n/a
Hunanddarpar
Cliciwch ar y ddolen am mwy o fanylion ac i archebu lle.
Mae ein Bwthyn Bach dafliad carreg i ffwrdd o Gastell Dinbych ac o fewn pellter cerdded i’r siopau, caffis, bwytai a thafarndai lleol. Mae popeth wedi'i ystyried yn ofalus a'i ddylunio'n hyfryd i ddarparu'r cartref oddi cartref perffaith i'n gwesteion.
Mae gan y bwthyn 2 ystafell wely - 1 Dwbl Enfawr, 2 Sengl Ewropeaidd (200cm o hyd) wedi'u gwneud ar gyfer oedolion, cegin llawn offer, stôf llosgi coed, gardd gefn heulog gaeedig lawn, cadair uchel a chot teithio ar gais. Mae bod rhwng Eryri a Bryniau Clwyd yn ei wneud yn lleoliad perffaith i archwilio gweddill Gogledd Cymru.
Sori dim anifeiliaid anwes
Tel: n/a
Bwthyn Bryn Llwyd
Mae Bwthyn Bryn Llwyn wedi ei leoli yn y wlad, ger Llanrhaeadr, dwy filltir o dref Dinbych. Mae'n leoliad delfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno ymweld a Sir Ddinbych a Gogledd Cymru.
Tel: n/a
Bwthyn Bryn Llwyd
Cliciwch ar y ddolen am mwy o fanylion ac i archebu lle // Click on the link for further details and booking
Tel: n/a
Hunanddarpar
Mae Bwthyn Bryn Llwyn wedi ei leoli yn y wlad, dwy filltir o dref Dinbych. Mae’r bwthyn un llawr, pedair seren hwn yn cynnig golygfeydd trawiadol o Ddyffryn Clwyd a Bryniau Clwyd, ac yn lleoliad delfrydol ar gyfer y rhai sy’n dymuno ymweld a Sir Ddinbych a Gogledd Cymru. Mae’r bwthyn yn mwynhau gerddi mawr, wedi eu cynnal yn dda, sy’n cael eu rhannu gyda’r perchennog ond sy’n cynnig nifer o gilfachau preifat i ymwelwyr eu mwynhau. Mae yma gegin ac ystafell fyw cynllun agored, gyda ardal fwyta ac ardal eistedd, ystafell wely dwbl, ac ystafell ymolchi a chawod en-suite. Dyma fwthyn del sy'n cynnig cyfle i gyplau ymlacio mewn awyrgylch tawel a chysurus.
https://www.sykescottages.co.uk/cottage/North-Wales-Snowdonia-Hn-efail/Bwthyn-Bryn-Llwyn-8662.html
Tel: n/a
Segrwyd Mill
Melin ddŵr restredig gradd II o'r 18fed ganrif sydd wedi ei haddasu'n llety gwyliau 4 Seren.Gardd breifat fawr a llawer o nodweddion gwreiddiol y tu mewn a'r tu allan.
01745 570878
Segrwyd Mill
Nantglyn, Denbigh LL16 5PE // , Nantglyn, Sir Ddinbych LL16 5PE
01745 570878
Hunanddarpar
Mae Melin Segrwyd yn felin ddŵr restredig gradd II o'r 18fed ganrif ger yr afon Ystrad sydd wedi ei haddasu'n llety gwyliau 4 Seren.
Mae'r ardal fyw ar y llawr cyntaf ac mae'r ail lawr yn cynnwys lolfa cynllun agored, cegin ac ardal fwyta gydag ystafell amlbwrpas ar wahân. Mae gan yr ail lawr ystafell gawod a dwy ystafell wely, un dwbl ac un â dau wely sengl.
Mae'r felin ar ei thir ei hun gyda gardd breifat fawr.Y tu mewn a’r tu allan, mae llawer o'r nodweddion gwreiddiol yn dal i fodoli.
01745 570878
Ty Newydd y Llwyn
Bwthyn gwyliau swynol o'r 18fed Ganrif uwchben Dyffryn Clwyd
https://www.independentcottages.co.uk/snowdonia/ty-newydd-y-llwyn-ref2569
+44(0)1745710615
Ty Newydd y Llwyn
Ty Newydd y Llwyn, Waen, Bodfari, Denbighshire
+44(0)1745710615
Hunanddarpar
Mae Tŷ Newydd y Llwyn yn cysgu pedwar gwestai mewn dwy ystafell wely ac mae'n fwthyn gwyliau swynol o'r 18fed Ganrif mewn safle uchel chwe chan troedfedd uwchben Dyffryn Clwyd gyda golygfeydd syfrdanol a llawer o deithiau cerdded gwych o'r drws ffrynt.
Am fanylion pellach ac argaeledd, dilynwch y ddolen.
https://www.independentcottages.co.uk/snowdonia/ty-newydd-y-llwyn-ref2569
+44(0)1745710615
Nant Bach Cottage
Yn gorwedd mewn dyffryn ar lannau Afon Aled, mae Nant Bach wedi ei osod ar ei dir ei hun gyda digonedd o le parcio a newydd gael ei adnewyddu i safonau uchel.
07796 893300
Nant Bach Cottage
Llansannan, Denbigh LL16 5NE , , Llansannan, Dinbych LL16 5NE
07796 893300
Hunanddarpar
Yn gorwedd mewn dyffryn ar lannau Afon Aled, dim ond un filltir tu allan i bentref bach gwledig Llansannan ger Dinbych, mae bwthyn hardd, "Nant Bach".
Ar ei dir ei hun gyda digonedd o le parcio, mae newydd gael ei adnewyddu i safonau uchel ac yn cynnig man i ymlacio neu’n lleoliad i archwilio dyffryn prydferth Conwy.
Mae'r eiddo yn cynnwys dwy ystafell wely, lolfa / man bwyta, lolfa haul, ystafell ymolchi gyda thoiled ar wahân, cegin a phortsh blaen. Yn cysgu 5-6.
Arhosiad byr neu wythnosol ar gael o £199- £450 am arhosiad wythnos.Dim asiantau – archebwch yn uniongyrchol gyda'r perchennog.
07796 893300