This site uses cookies that store non-personal information to help us improve our site.

Taith o amgylch y dref

Pa ffordd well i ddod i adnabod tref na thrwy fynd ar daith dywysedig gydag arbenigwr lleol? Cynhelir teithiau tywysedig pob penwythnos rhwng y Pasg a’r hydref, ac ar adegau eraill trwy drefniant. Ac yn bwysicach fyth – maent am ddim!

Ymhlith uchafbwyntiau’r teithiau mae’r canlynol:

Y Llyfrgell – yn dyddio o 1572, a’r hen Neuadd Sir, bellach yn llyfrgell gyfoes, canolfan wybodaeth ac oriel gelf;

Porth Burgess – rhan o amddiffynfeydd canoloesol y dref a oedd yn 60 troedfedd o uchder yn wreiddiol (18.3 metr), heddiw mae’n gartref i arddangosfa am ddim ar hanes y dref.

Tŵr Sant Ilar – olion capel y gwarchodlu, yn dyddio’n ôl i’r 14eg ganrif;

Castell Dinbych – un o’r cestyll mwyaf a’r cryfaf yng Nghymru, gyda saith thŵr yn amddiffyn y muriau allanol trwchus a phorth cadarn yn amddiffyn y fynedfa. Roedd hon yn ddolen bwysig yng nghadwyn cestyll amddiffynnol Edward I o amgylch Cymru.  Heddiw, mae’r castell yng ngofal Cadw – i gael mwy o wybodaeth ac i weld y llawlyfr gwych am y castell a muriau’r dref. (Nodwch os gwelwch yn dda nid yw'r daith dywysedig yn mynd tu mewn i'r castell; mae tâl ychwanegol am hyn).

Eglwys Caerlŷr – fe’i dechreuwyd gan Iarll Caerlŷr yn 1578, ond ni chafodd ei chwblhau erioed. Roedd gwrthwynebiad i’r syniad o godi adeilad protestannaidd i gymryd lle Eglwys Gadeiriol bresennol Llanelwy, a hefyd roedd yr Iarll yn hynod o amhoblogaidd ymhlith y trigolion lleol – wrth i’r eglwys gael ei hadeiladu, roeddynt yn aml yn ei dymchwel.

Muriau’r Dref – mae muriau’r dref yn rhoi cyfle arbennig i ni gynnig ‘agoriadau’r dref’ i ymwelwyr. Gallwch gael mynediad i furiau’r dref drwy giât arbennig a chedwir yr agoriad yn y Llyfrgell neu’r Castell, mae’r muriau yn fendigedig ar gyfer mynd am dro a mwynhau’r golygfeydd gwych.

Ar hyd y daith, byddwn hefyd yn tynnu eich sylw at nifer o lefydd eraill o ddidordeb, megis Theatr Twm o’r Nant, a enwyd ar ôl ‘Shakespeare Cymru’; cartref plentyndod H M Stanley – a’r gofeb a godwyd i gofio amdano yn 2011; a’r Lôn Cefn, rhan o batrwm strydoedd canoloesol Dinbych lle mae’r adeiladau o’r 15fed ganrif yn rhoi blas gwirioneddol o’r awyrgylch gwreiddiol.

Dewch i gerdded

Os ydych wedi dod â’ch esgidiau cerdded a chôt law, gallwch ymuno ag un o’n teithiau wythnosol dan arweiniad gwirfoddolwyr hyfforddedig lleol.

Mae’n ffordd wych o ddod i adnabod yr ardal a gwneud ffrindiau newydd.

Mae’r teithiau cerdded, tua awr o hyd, yn dechrau o’r Ganolfan Hamdden bob bore Mawrth am 10:00 neu o siop Morrison’s am 1:00pm. Ddydd Iau am 10:00am byddwn yn dilyn llwybr gwahanol o Bwll y Grawys. Dylech gyrraedd 15 munud cyn dechrau’r daith. I gael mwy o fanylion am y teithiau cerdded sydd ar gael ar draws Sir Ddinbych a Sir y Fflint, ffoniwch Barc Gwledig Loggerheads:

01352 810614, neu ewch i’r gwefannau canlynol,
www.walkaboutflintshire.com,
http://www.denbighshirecountryside.org.uk/dewch_i_gerdded/