Teithiau cerdded yn Ninbych
Saif Dinbych yng nghalon Dyffryn Clwyd ac mae’n ganolfan wych er mwyn darganfod tirwedd amrywiol a dramatig y rhanbarth ac ymgolli yn harddwch yr awyr agored.
Mae popeth yma – os ydych am gerdded, beicio mynydd, marchogaeth, pysgota, chwarae golff, hwylfyrddio neu hwylio – mae digon o ddewis yn Ninbych a’r ardal.
Teithiau Cerdded
Disgrifiwyd Sir Ddinbych fel ‘paradwys i gerddwyr’ ac mae’n wir - rydym hyd yn oed yn cynnal gŵyl gerdded flynyddol! prestatynwalkingfestival.co.uk Rydym hefyd wedi sefydlu rhaglen teithiau tywysedig sy’n rhedeg o ddechrau’r gwanwyn i ddiwedd yr hydref, gyda theithiau sy’n addas i bawb ac wedi’u graddio er mwyn i chi ddewis y daith orau i chi.
denbighshirecountryside.org.uk/lets_walk/
Felly, os ydych awydd mynd ar daith gerdded hamddenol 1.5 milltir gyda’r nos i chwilio am ystlumod ar hyd Rhaeadr Bwlch yr Oernant, neu daith egnïol Nordaidd (darperir polion) i gopa Castell Dinas Brân, byddwch yn siŵr o ddod o hyd i daith addas. I gael mwy o fanylion ac archebu eich taith, cliciwch yma.
Ac wrth gwrs, i’r rheini sy’n chwilio am fwy o her, mae’r tirwedd yn aros amdanoch! Gallwch grwydro’r bryniau eang, neu ddilyn y llwybrau adnabyddus, megis Llwybr y Berwyn neu Lwybr Cenedlaethol Clawdd Offa.
Crwydro o amgylch
Wrth gwrs, does dim rhaid mynd ar daith wedi’i threfnu i ddarganfod rhai o’n perlau cudd. Dilynwch eich trwyn a does wybod beth y byddwch yn ei weld – y colomendai efallai, neu hen borthdy’r castell, edrychwch i fyny i weld y ‘tirwedd’ blith-draphlith o doeau a simneiau.
Mae’n dref fach felly ewch chi ddim ar goll, a byddwch yn teimlo’n sâff, yn ddiogel ac yn derbyn croeso ym mhob rhan o’r dref.
O gwmpas y dref
Mae mwy o adeiladau rhestredig yn Ninbych nag yn unrhyw dref arall yng Nghymru, felly os ydych yn mwynhau crwydro drwy hanes, ewch am dro o amgylch y dref.
Gallwch weld tai trefol o oes Elizabeth, eglwysi hanesyddol ac ysgolion ac ysbytai grand Fictoraidd. Cofiwch fynd heibio Tŷ Mostyn, Bryn y Parc, Dolbelydr ac eglwys y Santes Farchell – a beth am oedi i fwynhau bwyd a diod ar y daith?
Mentro ymhellach
Taith Gerdded Fferm Goblin ac Eglwys y Santes Farchell
Os bydd gennych awr neu fwy yn rhydd, cewch flas go iawn o Ddinbych drwy’r oesoedd ar y daith hon.
O’r castell, ewch heibio i fwthyn bach ar ymyl y lawnt hyd at y gamfa garreg. Ewch i lawr y grisiau serth, croeswch y ffordd a dilynwch y llwybr troed at waelod Tŵr y Goblin. Cadwch i’r dde ymhen 60 metr, heibio’r giât mochyn. Ewch ar hyd llwybr caregog trwy dri chae i’r ffordd, gerllaw fferm a mynwent trowch i’r chwith i’r dref os ydych am fynd am daith fer, neu ewch ymlaen i’r Brwcws ac Eglwys y Santes Farchell.
Taith Gerdded Dr Johnson
O Bwll y Grawys dilynwch y llwybr troed ger y rhandiroedd a chroeswch y ffordd trwy ystad Llewelyn at arwydd y llwybr troed.
Cerddwch trwy ddau gae at y ffordd, yna ar hyd y ffordd at y llwybr ceffyl. Mae afon Ystrad ar yr ochr chwith. Mae cofeb Dr Johnson ar draws y cae, cerddwch i fyny’r cae, sydd ar lethr, heibio Waenynog – lle yr arferai Beatrix Potter ddod – i Bryn Calch, ffermdy Tuduraidd du a gwyn, a fu’n gartref i Hugh Myddelton. Ewch i’r dde at lwybr ceffyl a dychwelwch i’r dref.
Eglwys Sant Dyfnog
Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch
Saif eglwys Sant Dyfnog yn Llanrhaeadr (gyferbyn â’r Ffynnon Sanctaidd) 3 milltir i lawr yr A525 o Ddinbych i Ruthun.
Ei phrif ryfeddod yw’r ffenestr “Coeden Jesse” fawr, ddisglair, a luniwyd yn 1533. Llwyddodd i oresgyn y Rhyfel Cartref trwy gael ei chladdu mewn cist anferth, sy’n dal i sefyll oddi tani. Yn ogystal, mae’r pentref yn cynnwys tafarn, efail (crochendy heddiw) ac elusendai Sioraidd.