Digwyddiadau
Mae trigolion Dinbych yn bobl brysur iawn, cynhelir pob math o ddigwyddiadau yma ac mae croeso i chi ymuno.
Dyma rai o’r digwyddiadau a gynhelir yn y dref:
Nadolig yn Ninbych - Troi 'Mlaen Y Golueadau Nadolig (29 Tachwedd 2024)
Nadolig yn Ninbych - Troi 'Mlaen Y Golueadau Nadolig
Ymunwch yn ein dathliadau gyda diwrnod llawn o weithgaredau gan gynnwys stondinau marchnad ar gyfer eich anrhegion Nadolig gyda chrefftau lleol, bwyd, lluniaeth, ffair, canu, a heb anghofio Siôn Corn yn ei Groto gyda’i gynorthwyydd bach Eli’r Coblyn (3pm - 7pm @ £3 y plentyn). A'r cyfann y dod i ben gyda'r uchafbwynt o weld ein goleuadau Nadolig yn cael eu troi ymlaen am 6pm!
Neuadd yDref a Sgwâr y Goron
PARCIO AM DDIM!!!!!!
Os hoffech archebu stondin marchnad, cysylltwch â: Jo ar 01745 815984
Gŵyl San Steffan - Rasus Rhowlio'r Gasgen (26 Rhagfyr 2024)
Bydd y digwyddiad yn cychwyn tua 10.30 gyda gorymdaith o hen dractorau ac yna dychweliad Helfa Fflint a Dinbych am 10.45. Bydd y rasus yn cychwyn am 11.
Yn Sgwar y Goron cynhelir rasus i'r plant ac ar y Stryd Fawr y rasus i'r oedolion (dynion, merched a thîmau o ddau). Cofrestru ar gyfer y rasus ar ddiwrnod San Steffan yn unig.