Digwyddiadau
Mae trigolion Dinbych yn bobl brysur iawn, cynhelir pob math o ddigwyddiadau yma ac mae croeso i chi ymuno.
Dyma rai o’r digwyddiadau a gynhelir yn y dref:
Gŵyl San Steffan - Rasus Rhowlio'r Gasgen (26 Rhagfyr 2024)
Bydd y digwyddiad yn cychwyn tua 10.30 gyda gorymdaith o hen dractorau ac yna dychweliad Helfa Fflint a Dinbych am 10.45. Bydd y rasus yn cychwyn am 11.
Yn Sgwar y Goron cynhelir rasus i'r plant ac ar y Stryd Fawr y rasus i'r oedolion (dynion, merched a thîmau o ddau). Cofrestru ar gyfer y rasus ar ddiwrnod San Steffan yn unig.