This site uses cookies that store non-personal information to help us improve our site.

Gadewch i’r meddwl grwydro

Un o’r pethau gorau am dref Dinbych yw’r ymdeimlad o le ac amser sydd yma. Does dim brys, mae amser yn symud yn arafach yma fel y gwnaeth am dros y canrifoedd – ac mae digon o le i lenwi’r ysgyfaint a’r meddwl.

Mae croeso i chi grwydro fel y mynnoch – wedi’r cyfan, byddwch yn awyddus i ddarganfod pethau ar eich liwt eich hun. Ond rydym yn gwybod sut brofiad yw cyrraedd un o uchelfannau’r dref megis y Castell neu Furiau’r Dref ac edrych allan dros y tirwedd eang. Ar ôl i chi gael eich gwynt atoch, byddwch yn ysu i grwydro’r mannau hyn. 

Ceir yma nifer o bentrefi bychan hynod, mannau cysegredig hynafol, tafarndai hanesyddol, gerddi cudd, hen adeiladau crand ac wrth gwrs rhai o’r golygfeydd mwyaf godidog yn Ynysoedd Prydain.

Hefyd, mae yma siopau annibynnol, tafarndai a bwytai, crefftwyr, grwpiau theatr, corau a chlybiau chwaraeon.

Ac mae amrywiaeth eang o weithgareddau awyr agored ar gael – megis beicio ar hyd llwybr beicio cenedlaethol, neu feicio mynydd yn y bryniau a’r rhostiroedd, neu os ydych am wneud rhywbeth mwy hamddenol, mae digonedd o gyfleusterau i ferlota a marchogaeth ceffylau yn y rhanbarth.

Mae pysgota gêm cain i'w gael ar Afonydd Clwyd, Elwy ac Aled (www.valeofclwydanglingclub.org) yn ogystal â physgota brithyll gorau yn y byd yn Llyn Brenig a theithiau pysgota môr o'r arfordir, ac ychydig ymhellach i ffwrdd, cyfle i bysgota gêm a bras ar Afon Dyfrdwy. 

I’r rheini sy’n chwilio am antur gallwch rafftio dŵr gwyn a chanwio ar afon Dyfrdwy, neu hwylfyrddio a hwylio ar Lyn Brenig.

Eisiau rhoi cynnig ar golff neu wella eich gêm? Mae yma bum cwrs golff a maes ymarfer yn Sir Ddinbych a fydd yn berffaith ar eich cyfer.

Darganfod mwy

Mae Dinbych yn ganolfan ddelfrydol ar gyfer darganfod tirlun godidog Gogledd Cymru – ac mae yma rywbeth at ddant pobl o bob oed a gallu gerllaw.

Beth am ddarganfod bryngaerau’r oes haearn ar Fryniau Clwyd neu rostiroedd dirgel Mynydd Hiraethog (llwybr-hiraethog); ysblander Eryri neu drefi glan-môr traddodiadol arfordir gogledd Cymru.

Gallwch hefyd fwynhau dewis o chwaraeon dŵr yn Llyn Brenig (llynbrenig.com) neu feicio mynydd a marchogaeth ym Mharc Gwledig Loggerheads. Ewch i parc-gwledig-loggerheads.