This site uses cookies that store non-personal information to help us improve our site.

Golwg wahanol ar ymweliadau

Mae tref Dinbych yn cynnig profiad unigryw i ymwelwyr. Mae natur a hanes yn cyfuno i greu amgylchedd deniadol, un sy’n annisgwyl a chyfareddol, yn hynod a chroesawgar. Mae Dinbych yn cynnig dewis amgen i rai o gyrchfannau mwy adnabyddus Gogledd Cymru.

Mae pensaernïaeth drawiadol ac adeiladau hynafol yn amlwg yma, a’r mwyaf enwog ohonynt yw Castell Dinbych. Adeiladwyd y castell yn 1282 a saif mewn lleoliad trawiadol sy’n cynnig golygfeydd panoramig o Fryniau Clwyd. Ceir yno borthdy trillawr trawiadol ac arddangosfa, ac mae’r adeilad yng ngofal Cadw, y corff sy’n gyfrifol am gofebion hanesyddol Cymru.

Yn ystod y Rhyfel Cartref, fe wnaeth Muriau’r Dref amddiffyn y dref rhag Bengryniaid Oliver Cromwell a bellach gallwch gerdded ar eu hyd a mwynhau’r un golygfeydd godidog ar draws Dyffryn Clwyd ag a welodd amddiffynwyr y dref ganrifoedd yn ôl. Galwch yn y Castell neu yn Llyfrgell y Dref os hoffech fenthyg yr agoriadau i furiau’r dref.

Porth y Bwrdeiswyr oedd y prif fynediad i’r hen dref ac un o’r pyrth trefol canoloesol cryfaf ym Mhrydain. Mae’r ddau dŵr i’w gweld ar sêl ddinesig Dinbych. Adeilad arall sy’n haeddu golwg fanylach yw Eglwys Caerlŷr, er na chafodd ei chwblhau. Cafodd ei hadeiladu gan Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, cariad y Frenhines Elizabeth I yn ôl pob sôn.

Mae nifer o adeiladau hanesyddol yn agor eu drysau i’r cyhoedd yn ystod y penwythnosau treftadaeth blynyddol. Maent yn cynnwys yr hen farchnad fenyn, tŷ mynachaidd Carmelaidd, hen westy’r Bull, Bron y Ffynnon (ty trefol Tuduraidd), eglwysi y Santes Fair a’r Santes Farchell, capeli megis Capel Mawr, Capel Pendref a Chapel Lôn Swan.

Un o gymeriadau mwyaf amlwg y gorffennol oedd Dr Evan Pierce, meddyg o’r 19eg ganrif. Gallwch weld ei gofeb 50 troedfedd a’i erddi coffa yn Stryd y Dyffryn.

Mae amgueddfa radio fechan ‘Gwefr Heb Wifrau’ yn cynnig profiad gwahanol. Mae ein pwyslais ar hanes darlledu yng Nghymru, dylanwad radio ar ein hunaniaeth a chyfraniad Cymru at ddatblygiad radio, yn gwneud yr amgueddfa yn unigryw. Mae gennym gasgliad diddorol o hen declynnau radio ynghyd ag arddangosfeydd addysgol, llawn gwybodaeth. Mae’r amgueddfa ar agor bob dydd Gwener rhwng 11yb a 3yp a phob dydd Sadwrn cyntaf y mis (11yb - 3yp) a thrwy drefniant ar adegau eraill.

Amgueddfa’r 1950au

Bydd y casgliad preifat hwn yn apelio at bawb sy’n ymddiddori yn y 1950au!

Mae’n cynnwys pob math o eitemau cofiadwy o fyd adloniant a throsedd – yn cynnwys y lori a ddefnyddiwyd yn ystod y ‘Great Train Robbery’ – ceir clasurol, eitemau chwaraeon (yn enwedig boscio) ac ystafelloedd yn cynnwys dodrefn a theclynnau o’r 1950au.

Gallwch fwynhau paned yn ein caffi pan fyddwch yn ymweld â’n hamgueddfa 50au neu dewch â phicnic i fwynhau’r golygfeydd o Ddyffryn Clwyd. Mae cynnyrch cartref a retro ar werth yn ein siop.

 

Theatr Twm o’r Nant

Mae Theatr Twm o’r Nant yn dyddio o 1890 ac fe’i hadeiladwyd fel Neuadd Goffa yn wreiddiol gan Dr Evan Pierce, y gallwch weld ei gofeb yng Ngerddi Dr Coffa Evan Pierce 50 metr i ffwrdd.

Mae’r theatr gymunedol hon yn llwyfannu cynyrchiadau dramatig proffesiynol ac amatur, yn ogystal â sioeau sinema, cerddorol a dawns. Mae nifer o fandiau lleol a grwpiau drama yn ymarfer yma, ynghyd â myfyrwyr unigol ac ysgolion.

Nid yw parcio yn broblem ac mae ein cyfraddau llogi yn gystadleuol. Mae’r theatr yn ganolfan ddelfrydol i gynnal cynadleddau a digwyddiadau busnes.

I gael mwy o wybodaeth am logi’r theatr neu ddigwyddiadau’r dyfodol, ewch i:

theatr-twm-or-nant-org.uk neu ffoniwch 01745 814323 / 812349.