Llefydd i Siopa
Y Ty Gwyrdd Limited
Back Row, Denbigh, LL16 3TE
07954521364
Llefydd i Siopa
Crëwyd Y Tŷ Gwyrdd i gynnig gofod cynhwysol a chroesawgar i'r gymuned leol, i ddathlu a hyrwyddo'r bobl a'r mentrau ysbrydoledig yn Ninbych a'r ardal gyfagos, ac i helpu i leihau effaith y cymunedau ar yr amgylchedd trwy gynnig opsiynau a chyfleoedd dim gwastraff fforddiadwy a hygyrch i hwyluso economi gylchol.
Facebook @ytygwyrdd
Instagram @ytygwyrdd
07954521364
Carpet Emporium
Arbenigwyr carpedi a lloriau finyl gydag ystod eang o samplau ar ddangos ar gyfer pawb. Gwasanaeth rygiau, carpedi culion a matiau drysau wedi’u gwneud i fesur.
www.carpetemporiumnorthwales.co.uk
01745 814235
Carpet Emporium
35 High Street, Denbigh LL16 3HY // 35 y Stryd Fawr, Dinbych LL16 3HY
01745 814235
Llefydd i Siopa
Rydym yn dîm o ŵr a gwraig sy'n arbenigo mewn carpedi a lloriau finyl, ac mae gan Phil dros 30 mlynedd o brofiad eu gosod. Mae Lyndsey yn y siop yn ddyddiol, 9.30am-5.30pm ddydd Llun tan ddydd Gwener a 9.30am - 3pm, ddydd Sadwrn lle cewch weld ystod eang o samplau ar ddangos ar gyfer pawb.
Rydym yn cynnig gwasanaeth rygiau, carpedi culion a matiau drysau unigryw wedi’u gwneud i fesur gyda’n gwasanaeth rhwymo. Gallwch hefyd ddod o hyd i ystod amrywiol o rai wedi'u gwneud yn barod hefyd.
www.carpetemporiumnorthwales.co.uk
01745 814235
Bevans
siop manwerthu cartref a Gardd sy'n stocio cynnyrch tymhorol, offer a chyflenwadau ar gyfer eich holl anghenion DIY a llawer mwy.
01745 814875
Bevans
57 High Street, Denbigh, LL16 3SD // 57 Stryd Fawr, Dinbych, LL16 3SD
01745 814875
Llefydd i Siopa
siop manwerthu cartref a Gardd sy'n stocio cynnyrch tymhorol, offer a chyflenwadau ar gyfer eich holl anghenion DIY a llawer mwy.
01745 814875
Daniel Morris: Family Butchers
Deli a chigydd yn gwerthu cig lleol o ffermydd lleol. Mae'r holl selsig, byrgyrs a phasteiod yn cael eu gwneud ar y safle
01745 812585
Daniel Morris: Family Butchers
124 Stryd y Dyffryn, Dinbych LL16 3BS // 124 Vale Street, Denbigh LL16 3BS
01745 812585
Llefydd i Siopa
Cig lleol o ffermydd lleol.Cyflenwyr i'r fasnach arlwyo. Yr holl selsig, byrgyrs a phasteiod yn cael eu gwneud ar y safle.
01745 812585
Alton Murphy Opticians
Rydym yn falch i fod y cwmni optegol annibynnol mwyaf yng Ngogledd Cymru.
01745 814945
Alton Murphy Opticians
Y Gegin Fach, Sgwâr y Goron, Dinbych // Y Gegin Fach, Crown Square, Denbigh
01745 814945
Llefydd i Siopa
Sefydlwyd Alton Murphy gan Mr Alton Murphy Bsc.FC OPTOM yn 1970 wrth iddo agor ei arferion optegol cyntaf yn Amlwch a Biwmares, gan adeiladu enw da am gynnig y safon uchaf o ofal llygaid proffesiynol a sbectolau ansawdd.
Mae Alton Murphy yn awr wedi esblygu i gynnig ei arbenigedd proffesiynol ar draws Gogledd Cymru.
Rydym yn falch i fod y cwmni optegol annibynnol mwyaf yng Ngogledd Cymru.
01745 814945
CITS Ltd
20 Stryd y Dyffryn, Dinbych, LL16 3BE // 20 Vale Street, Denbigh, LL16 3BE
01745 817654
Llefydd i Siopa
E. Jones and Son Ltd, TV and Radio
Manwerthwr trydanol annibynnol teuluol yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r ardal am dros 100 mlynedd.Amrywiaeth eang o stoc, staff gwybodus, gwasanaeth danfon a gosod.
01745 812814
E. Jones and Son Ltd, TV and Radio
Adeiladau Druid, Heigad, Dinbych LL16 3LE // Druid Buildings, Highgate, Denbigh LL16 3LE
01745 812814
Llefydd i Siopa
Rydym yn fanwerthwr trydanol annibynnol teuluol ac wedi bod yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i'r ardal am dros 100 mlynedd.
Rydym ag amrywiaeth eang o gynnyrch ac yn aelodau o'r grŵp prynu Euronics, sy'n golygu ein bod yn cael mynediad at y rhan fwyaf o frandiau, ac yn ein galluogi i archebu unrhyw beth sydd ar gael yn gyflym iawn.
Rydym yn cynnig gwasanaeth danfon a gosod ac mae ein holl staff yn barod i helpu, yn wybodus ac yn brofiadol.
01745 812814
Snow in Summer: Vintage goods, crafts and gift shop
Cymysgedd eclectig o nwyddau, cardiau, anrhegion a chrefftau hen ffasiwn gan wneuthurwyr lleol ac o bell gan gynnwys cerameg, gemwaith, gwaith celf, tecstilau hen bethau a dodrefn wedi’i baentio.
www.facebook.com/DenbighSnowInSummer/
07867 891396
Snow in Summer: Vintage goods, crafts and gift shop
33 Vale Street, Denbigh LL16 3AH // 33 Stryd y Dyffryn, Dinbych LL16 3AH
07867 891396
Llefydd i Siopa
Snow in Summer: Siop nwyddau, crefftau ac anrhegion hen ffasiwn
Cymysgedd eclectig o nwyddau, anrhegion a chrefftau hen ffasiwn gan wneuthurwyr lleol ac o bell. Mae hyn yn cynnwys cerameg, gemwaith, gwaith celf, tecstilau, hen bethau a dodrefn wedi’i baentio, gyda phwyslais ar eitemau lleol ac o Gymru. Dewch o hyd i ni ar Facebook: DenbighSnowInSummer.
www.facebook.com/DenbighSnowInSummer/
07867 891396
J H Jones & Co: Family butchers
Cigyddion teuluol sydd wedi bod mewn busnes am dros 30 mlynedd. Cig ardderchog lleol, yn aml o’n fferm ein hunain, a chyfle i arddangos y cynhyrchwyr bwyd gorau ar draws y rhanbarth.
01745 812132
J H Jones & Co: Family butchers
92 Stryd y Dyffryn, Dinbych LL16 3BW // 92 Vale Street, Denbigh LL16 3BW
01745 812132
Llefydd i Siopa
Mae J H Jones, cigydd teuluol yn Ninbych, wedi bod mewn busnes ers dros 30 mlynedd.
Mae Dafydd a’r staff yn ymfalchïo mewn rhoi cig a chynnych lleol rhagorol i’w cwsmeriaid.
Daw’r cig naill ai o fferm Dafydd ac Elfair, ffermydd lleol eraill neu'r farchnad anifeiliaid leol gan Dafydd ei hun - a chymerir gofal mawr i ddarparu'r ansawdd gorau bob amser.
Mae'r siop hefyd yn gwerthu amrywiaeth eang o gynnyrch lleol eraill, gan gefnogi cynhyrchwyr bwyd ar draws y rhanbarth.
01745 812132
Baroque: Gifts, cards, home interiors, ladies fashion, jewellery, bags and more
Ar dri llawr, mae gan y siop rywbeth i bawb – mae’n wledd i'r llygaid. Beth bynnag yw eich achlysur, beth bynnag yw eich cyllideb.
01745 815899
Baroque: Gifts, cards, home interiors, ladies fashion, jewellery, bags and more
13 Crown Square, Denbigh, LL16 3AA // 13 Sgwâr y Goron, Dinbych, LL16 3AA
01745 815899
Llefydd i Siopa
Baroque: Anrhegion, cardiau, eitemau ar gyfer y cartref, ffasiwn merched, gemwaith, bagiau a mwy.
Mae Baroque yng nghanol Dinbych, yn agored o ddydd Llun i ddydd Sadwrn 9.30am-5pm. Ar dri llawr, mae gan y siop rywbeth i bawb – mae’n wledd i'r llygaid. Beth bynnag yw eich achlysur, beth bynnag yw eich cyllideb, rydym yma i helpu.
01745 815899
Oldhams Bakery
Becws teuluol sy’n gwerthu bara ffres o ansawdd gwych, cacennau hufen ffres, danteithion sawrus a pasteiod.
01745 815357
Oldhams Bakery
31 High Street, Denbigh LL16 3HY // 31 y Stryd Fawr, Dinbych LL16 3HY
01745 815357
Llefydd i Siopa
Rydym yn fecws teuluol sy’n gwerthu bara ffres o ansawdd gwych, cacennau hufen ffres, danteithion sawrus a pasteiod.
01745 815357
Gifts Galore: Gift shop
Gifts Galore: Gift shop
07545 275613
Llefydd i Siopa
.
07545 275613
The Secret Garden: Garden centre and gifts
Canolfan arddio deuluol gyda chaffi a pharlwr hufen iâ ar y safle lle gallwch fwynhau lluniaeth tu mewn neu'r tu allan yn y gerddi.
01745 817397
The Secret Garden: Garden centre and gifts
31c Vale Street, Denbigh LL16 3BE // 31c Stryd y Dyffryn, Dinbych LL16 3BE
01745 817397
Llefydd i Siopa
Mae Reebees Secret Garden yn ganolfan arddio deuluol unigryw sy'n cynnig planhigion, llwyni, coed,
potiau, tybiau, offer garddio, addurniadau gardd a dodrefn, anrhegion a mwy.
Mae caffi a pharlwr hufen iâ ar y safle lle gallwch fwynhau lluniaeth tu mewn neu'r tu allan yn y gerddi. Rydym hefyd yn cadw ein hamrywiaeth ein hunain o fwyd adar ac ystod o offer bwydo adar, tai adar ac ati
01745 817397
The Carriageworks CIC: Arts and crafts, therapeutic workshops and coffee shop
Profiad unigryw mewn adeilad hardd.Arddangosfeydd oriel, oriel celf a chrefft, ioga, myfyrdod ac adweitheg, cerddoriaeth fyw, coffi wedi’i rostio’n lleol.
www.carriageworksdenbigh.co.uk
01745 797647
The Carriageworks CIC: Arts and crafts, therapeutic workshops and coffee shop
6 Love Lane, Denbigh LL16 3LU, , 6 Lôn Pendref, Dinbych LL16 3LU
01745 797647
Llefydd i Siopa
Mewn adeilad dilys a hardd o fewn golwg Stryd Fawr y dref, mae The Carriageworks yn cynnig profiad unigryw.
Mae arddangosfeydd yr oriel yn newid bob mis. Mae ardaloedd manwerthu sy'n arddangos gwaith artistiaid lleol a chrefftwyr lleol. Gellir archebu sesiynau ioga, myfyrdod ac adweitheg yn y Llofft tawel.
Weithiau mae yna berfformiadau cerddoriaeth fyw, eto gan gerddorion lleol yn perfformio eu gwaith eu hunain.
Mae hyd yn oed y coffi wedi ei rostio’n lleol gan Tim o Mug Run, sy'n cymryd gofal mawr i gyrchu’r ffa o gydweithfeydd dilys sydd wedi'u hyfforddi i gymryd gofal da o'u pridd, cyflenwadau dŵr a phlanhigion ac anifeiliaid o'u coedwig law.
www.carriageworksdenbigh.co.uk
01745 797647
Costello’s Floral Design: Florist and gift shop
Siop flodau leol deuluol sy'n cynnig gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol. Aelod llawn o Interflora gyda blodau’n dod yn uniongyrchol o'r Iseldiroedd. Angladdau, priodasau a chorfforaethol.
01745 818726
Costello’s Floral Design: Florist and gift shop
5 Stryd y Dyffryn, Dinbych, LL16 3AD // 5 Vale Street, Denbigh, LL16 3AD
01745 818726
Llefydd i Siopa
Dylunio Blodau Costello:Siop flodau ac anrhegion
Siop flodau leol deuluol sy'n cynnig gwasanaeth cyfeillgar a phroffesiynol. Mae ein holl werthwyr blodau’n gwbl gymwys ac rydym yn aelod llawn o Interflora - gallwn ddanfon yn lleol ac yn fyd-eang. Rydym yn prynu ein holl flodau’n uniongyrchol oddi wrth y tai arwerthiant yn yr Iseldiroedd ac maent yn cael eu danfon ddwywaith yr wythnos. Mae ein holl blanhigion y tu allan yn cael eu cyrchu’n lleol a’u tyfu yng Ngogledd Cymru. Rydym yn cynnig gwasanaeth proffesiynol ar gyfer angladdau, priodasau a chontractau corfforaethol.
01745 818726
Reebees Florist
Siop flodau bwrpasol deuluol sy'n arbenigo ym mhob agwedd ar flodeuwriaeth, gyda staff cyfeillgar a siopau yn Ninbych, Rhuthun a Pensby.
01745 817144
Reebees Florist
17 Bridge Street, Denbigh LL16 3LF // 17 Stryd y Bont, Dinbych LL16 3TF
01745 817144
Llefydd i Siopa
Mae Reebees yn siop flodau bwrpasol deuluol sy'n arbenigo ym mhob agwedd ar flodeuwriaeth. Mae gennym siopau yn Ninbych, Rhuthun a Pensby. Ffoniwch ni neu galwch heibio a siarad â'n staff cyfeillgar.
01745 817144
Tony Griffiths Picture Framing and Photography
Pob agwedd ar fframio lluniau a phrintio lluniau, adfer hen luniau a lluniau wedi’u difrodi, lluniau pasport a phortreadau’n cael eu tynnu yn y siop, cynhyrchu fideos, hen ffilmiau’n cael eu copïo i DVD.
01745 812551
Tony Griffiths Picture Framing and Photography
11 Bridge Street, Denbigh LL16 3LF // 11 Stryd y Bont, Dinbych LL16 3LF
01745 812551
Llefydd i Siopa
Pob agwedd ar fframio lluniau gan gynnwys printiau, canfasau ac ati.
Printio lluniau ar ganfasau, clustogau, mygiau, llechi, matiau diod, matiau bwrdd, ac ati. Hen luniau a lluniau wedi’u difrodi yn cael eu hadfer mewn lliw a/neu ddu a gwyn.
Lluniau pasbort a phortreadau’n cael eu tynnu yn y siop.
Gwasanaeth cynhyrchu fideos ar gyfer hyrwyddiadau busnes ac ar gyfer digwyddiadau arbennig, priodasau, bedyddiadau, ac ati. Hen fideos a ffilmiau sine wedi’u copïo i DVDs.
01745 812551
Blind Solutions Ltd: Window blinds, curtains, soft furnishings, shutters and awnings
Pob math o addurniadau ffenestri ar gyfer y cartref, neu eiddo masnachol a diwydiannol. Mae ein gwasanaeth mesur cyfeillgar heb ffi, heb raid prynu yn eich helpu i ddod o hyd i’r cyffyrddiad olaf perffaith ar gyfer eich ystafell.
01745 815549
Blind Solutions Ltd: Window blinds, curtains, soft furnishings, shutters and awnings
15 Vale Street, Denbigh LL16 3AD // 15 Stryd y Dyffryn, Dinbych LL16 3AD
01745 815549
Llefydd i Siopa
Blind Solutions Ltd: Cysgodlenni ffenestri, llenni a deunyddiau, caeadau ac adlenni
Wedi ein lleoli yn harddwch Dyffryn Clwyd gyda thros 20 mlynedd o brofiad, rydym yn arbenigo ym mhob math o addurniadau ffenestri, mewnol ac allanol, i’r cartref neu eiddo masnachol a diwydiannol.
Mae ein gwasanaeth mesur cyfeillgar heb ffi, heb raid prynu yn ein galluogi i’ch cynghori ac i’ch helpu i ddod o hyd i’r cyffyrddiad olaf perffaith ar gyfer eich ystafell.
Dewch draw i’n gweld yn ein hystafell arddangos lle mae croeso mawr i chi edrych ar yr hyn rydym yn ei gynnig neu os nad ydych yn medru dod i’n gweld, ffoniwch ni ar 01745 815549 a byddwn yn trefnu i ddod i’ch gweld chi.
01745 815549
Travelsport
Mae TRAVELSPORT yn cynnig y dewis ehangaf posibl, y safonau uchaf o wasanaeth, gwyliau o'r safon uchaf a gwir werth am arian.
01745 812161
Travelsport
2 Crown Square, Denbigh, LL16 3AA // 2 Sgwar y Goron, Dinbych, LL16 3AA
01745 812161
Llefydd i Siopa
Mae TRAVELSPORT yn cynnig y dewis ehangaf posibl, y safonau uchaf o wasanaeth, gwyliau o'r safon uchaf a gwir werth am arian.
Nid ydym yn unig yn gwerthu gwyliau i chi - rydym yno i'ch helpu chi cyn, yn ystod ac ar ôl eich seibiant a byddwn yn gwneud popeth posibl i sicrhau eich bod yn cael y gwyliau sy'n gweddu orau i'ch anghenion am bris y gallwch ei fforddio.
Rydym yn ymfalchïo mewn bod yn gyfeillgar, yn gymwynasgar ac yn effeithlon. Felly rhowch ni ar brawf, a darganfyddwch drosoch eich hun y profiad TRAVELSPORT!
01745 812161